Mae’r cyrsiau hyn yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n dymuno gwella eu CV a’u cyflogadwyedd, datblygu eu sgiliau cyfathrebu, neu ddim ond gweithredu yn haws yn yr amgylchedd aml-ieithog sydd ohoni.
Yr ystod o ieithoedd a gynigir ar hyn o bryd yw: Tsieinëeg (Mandarin), Ffineg, Ffrangeg, Almaeneg, Iaith Groeg, Eidaleg, Japanëeg, Pwyleg, Rwsieg, Sbaeneg a Swedeg. Mae’r rhain yn ddosbarthiadau ieithoedd tramor lefel prifysgol sy’n prysur gynyddu ac a gynhelir am 5pm–8pm, unwaith yr wythnos.
Cynigir pob iaith ar lefel dechreuwyr, cynigir rhai hyd at lefel ganolradd uwch (CEFR B2 neu lefel-SU). Mae pob hyfforddiant iaith dramor yn cynnwys elfen ddiwylliannol.
Mae’r cyrsiau yn cynnwys profiad dysgu yn y dosbarth 40 awr gyda digonedd o gyfleoedd ar gyfer hunan-astudiaeth dan arweiniad. Mae asesiad diwedd y modiwl yn cynnwys y pedwar sgil: gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu.
Bydd sgiliau llafar (siarad/gwrando) yn cael eu hyfforddi a’u hymarfer yn y lefelau isaf tar bod sgiliau ysgrifenedig (ysgrifennu/darllen) yn dod yn bwysicach yn y lefelau uwch. Cynigir pob iaith fel rhaglenni wedi’u dilysu, a gwobrwyir 20 credyd Addysg Uwch a Thrawsgrifiad Prifysgol ar ôl cwblhau pob modiwl.
