
Croeso i’r Ganolfan Ail Iaith
Sefydlwyd y Ganolfan Dysgu Ail Iaith yn y Brifysgol yn 2007. Dr. Leila Luukko-Vinchenzo yw Pennaeth y Ganolfan sydd wedi datblygu ac ehangu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ystod ei blwyddyn gyntaf, roedd y Ganolfan yn darparu ar gyfer tua 700 o fyfyrwyr o’i gymharu â’r llynedd pan fu’n darparu gwasanaethau iaith i tua 1200 o fyfyrwyr. Gweinyddir y Ganolfan gan Petra Skrivankova, a darperir hyfforddiant gan nifer gynyddol o ddarlithwyr profiadol â chymwysterau uchel.
Mae’r y Ganolfan Dysgu Ail Iaith yn falch o wasanaethu staff a myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr, y cyhoedd, yn ogystal â chleientiaid masnachol yn ac o amgylch Wrecsam, Gogledd Ddwyrain Cymru a thu hwnt. Yn wir, mae ei rhaglenni Iaith Saesneg yn denu cyfranogwyr o bob cwr o’r byd!
Yn ei hymdrechion i hybu pobl i ddysgu ieithoedd tramor, mae’r Ganolfan newydd ymuno â Llwybrau at Ieithoedd Cymru, menter newydd wedi’i hariannu gan CCAUC gyda’r nod o gynnig cefnogaeth addysg uwch i ysgolion gynnig mwy o ieithoedd tramor mewn addysg. Mae’r Ganolfan hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth ynghylch dysgu ieithoedd.

