Head divider

Canolfan Hyfforddi a Datblygu Cyfansoddau Uwch

Yn ganlyniad partneriaeth arloesol rhwng Prifysgol Glyndŵr, Airbus, Coleg Glannau Dyfrdwy a Llywodraeth Cynulliad Cymru, bydd y ganolfan yn helpu miloedd o weithwyr a phrentisiaid Airbus i ddatblygu eu sgiliau gweithgynhyrchu cyfansoddau. Roedd lansiad y ganolfan ym mis Hydref yn garreg filltir arall i Brifysgol Glyndŵr fel partner arbenigol anhepgor ar gyfer diwydiant yng ngogledd Cymru.Canolfan Hyfforddi a Datblygu Cyfansoddau Uwch Canolfan Hyfforddi a Datblygu Cyfansoddau Uwch pic 2

Mae’r gallu i gynllunio, gweithgynhyrchu a rhoi deunyddiau cyfansawdd at ei gilydd yn hanfodol yn y diwydiant awyrennol. Mae’r defnydd o gyfansoddau mewn awyrennau yn helpu i fwyhau pwysau a chynllun awyren, a chan hynny yn gwella effeithlonrwydd a pherfformiad.

Hyfforddiant

Mae’r sgiliau a’r prosesau gweithgynhyrchu sydd eu hangen i gynhyrchu rhannau a chydrannau cyfansawdd yn wahanol i waith metalig cyfredol, felly mae hyfforddiant yn y sector tra medrus yma yn bwysig i weithwyr a phrentisiaid yn y diwydiant.

Bydd y ganolfan yn galluogi myfyrwyr i symud ymlaen o lefel prentis crefft yn Airbus i fod yn Beiriannydd Siartredig yn sgîl cymwysterau a gyflenwir gan Brifysgol Glyndŵr ar bob lefel, gan gynnwys HNC/HND, gradd sylfaen, BSc, MSc a PhD. Datblygwyd MSc ac MRes mewn Cyfansoddau newydd y Brifysgol mewn cydweithrediad ag Airbus.

Canolfan Hyfforddi a Datblygu Cyfansoddau Uwch pic 3

Ymchwil

Targedir ymchwil dan arweiniad Prifysgol Glyndŵr at ddatblygu dulliau gweithgynhyrchu a phrosesu cyflymach ar gyfer defnyddiau cyfansawdd a fydd yn helpu i gwrdd â galw am awyrennau a chyfansoddau yn gyffredinol yn y dyfodol.

Mae’r Ganolfan yn croesawu ymholiadau gan ddiwydiant a’r byd academaidd i sefydlu cysylltiadau ymchwil gweithredol cydweithrediadol newydd. Gall prosiectau amrywio o ymgynghoriaeth byrdymor i gydweithrediadau mwy hirdymor yn sgîl cynlluniau megis YaD Cydweithrediadol Bwrdd Strategaeth Technoleg, Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (PTG), cydweithrediadau wedi’u hariannu gan y Cyngor Ymchwil, Nawdd Ariannol Undeb Ewropeaidd ac ymchwil gytundebol.

Canolfan Hyfforddi a Datblygu Cyfansoddau Uwch pic 4

ASTUTE – Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch

Mae’r ganolfan yn rhan o brosiect Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch Cymru-gyfan gwerth £26m, sy’n anelu i helpu cwmnïau i ddatblygu cynnyrch mwy cynaliadwy trwy ddefnyddio cyfansoddau, lleihau costau gweithgynhyrchu neu gwtogi’r amser i’r farchnad trwy fabwysiadu technolegau cyfansawdd.

A ydych yn wynebu unrhyw heriau technoleg yn eich cynlluniau busnes presennol neu arfaethedig? O dan ASTUTE daw pob Prifysgol yng Nghymru ynghyd i weld a allant gynnig ateb i chi.

Ariannir ASTUTE yn rhannol gan Gronfa Gydgyfeirio Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr UE trwy Lywodraeth Cymru. Am fwy o wybodaeth ewch i http://www.astutewales.com/  neu cysylltwch â Prof ruchard Day r.day@glyndwr.ac.uk

Cysylltwch â’r

Athro Richard Day

Athro mewn Peirianneg Cyfansoddau Prifysgol Cymru
Arweinydd Academaidd, Peirianneg Fecanyddol, Awyrennol a Thrydanol
Cyfarwyddwr Cyswllt yr Ysgol i Raddedigion sy’n gyfrifol am Sefydliad y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Plas Coch
Ffordd yr Wyddgrug
Wrecsam, Cymru
LL11 2AW

Ffôn: +44(0)1978 293117
Ebost: r.day@glyndwr.ac.uk

Dr. Fawad Inam

Arweinydd Rhaglen, Peirianneg Cyfansoddau
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Plas Coch
Ffordd yr Wyddgrug
Wrecsam, Cymru
LL11 2AW

Ffôn: +44(0)1978 29 3938/ 3103
Ebost: f.inam@glyndwr.ac.uk