|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i'r wasg 2012 > Prifysgol Glyndwr Llundain
|
||
|
|
Prifysgol Glyndŵr Llundain19 Ionawr 2012Mae gwefan wedi’i neilltuo i ddarparu gwybodaeth am gampws diweddaraf Prifysgol Glyndŵr – ym mhrifddinas y DU – wedi mynd yn fyw. Mae London.glyndwr.ac.uk yn rhoi gwybodaeth am gyrsiau, cyfleusterau a bywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr Llundain. Agorwyd y campws yn Elephant and Castle yn ddiweddar er mwyn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr o bob cwr o’r byd astudio ar gyfer graddau Prifysgol Glyndŵr yng nghanol Llundain. Mae llawer o dirnodau enwog a hanesyddol y ddinas i’w gweld ac o fewn pellter cerdded o’r safle. Bydd Prifysgol Glyndŵr Llundain yn cynnig graddau israddedig mewn cyfrifeg busnes, marchnata busnes, rheolaeth busnes ac astudiaethau iechud. Ar lefel uwchraddedig, ceir cyfle i astudio ar gyfer MBA Prifysgol Glyndŵr. |
|