|
Text begins here:
Y preswylwyr cyntaf yn symud i lety myfyrwyr newydd gwerth £40m Pentre Wrecsam
30 Medi 2010
Bydd rhan gyntaf cyfadeilad llety myfyrwyr newydd gwerth £40m yn Wrecsam yn cael ei agor yn swyddogol heddiw gan Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, Arloesi a Gwyddoniaeth.
Bydd hi’n cyfarfod â phreswylwyr cyntaf Pentre Wrecsam ar ôl i 156 o’r ystafelloedd gael eu cwblhau ar dir Cae Ras Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Mae pob ystafell yn y cyfadeilad newydd wedi cael eu cymryd gan fyfyrwyr sy’n astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Mae’r datblygiad yn ganlyniad partneriaeth rhwng perchnogion y cyfleuster, Wrexham Village Ltd, CPD Wrecsam a Phrifysgol Glyndŵr.
Dywedodd yr Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr, ei fod yn falch o weld y myfyrwyr cyntaf yn symud i mewn yn ôl y bwriad.
Meddai: “Rydym wrth ein boddau fod y rhan gyntaf wedi’i chwblhau – mae’n edrych yn wych ac rwy’n siŵr y bydd yn cael ei fwynhau gan gannoedd o fyfyrwyr am flynyddoedd lawer i ddod.
“Prif fyrdwn y Brifysgol yw addysgu myfyrwyr, ond roedd angen neuaddau preswyl newydd arnom ac rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda’r partneriaid lleol Wrexham Village Ltd a CPD Wrecsam i ddarparu cyfleuster a fydd yn gaffaeliad rhagorol i Wrecsam a gogledd ddwyrain Cymru.”
Disgrifiodd Lesley Griffiths AC Pentre Wrecsam fel datblygiad cyffrous i’r dref, i’r brifysgol ac i fyfyrwyr.
“Er mai Prifysgol Glyndŵr yw Prifysgol ieuengaf Cymru, mae ganddi hanes hir a nodedig, a gellir olrhain ei gwreiddiau yn ôl i 1887, pan sefydlwyd Ysgol Wyddoniaeth a Chelfyddydau Wrecsam.
“Mae agoriad rhan gyntaf y llety myfyrwyr gwerth miliynau o bunnau yma yn garreg filltir bwysig i’r Brifysgol, sydd eisoes yn profi i fod yn gyfleuster poblogaidd ar gyfer myfyrwyr newydd.
“Mae’n fuddsoddiad sylweddol a fydd yn hwb go iawn i’r Brifysgol, sy’n denu tua 6000 o fyfyrwyr y flwyddyn ac yn gwneud cyfraniad pwysig i’r economi.”
Meddai Ian Roberts, Cyfarwyddwr Wrexham Village Ltd: “Mae’n bleser gennym fod wedi gweithio mewn partneriaeth i sicrhau llety modern, ynni-effeithlon sy’n cyflawni anghenion Prifysgol Glyndŵr a’i myfyrwyr.
“Gobeithio y bydd Pentre Wrecsam yn dod yn adeilad eiconig y gall pawb sy’n gysylltiedig â’r dref fod yn falch ohono.”
Gwnaeth Banc y Co-operative Bank fenthyg £2.85 miliwn ar gyfer rhan gyntaf datblygiad Pentre Wrecsam.
Meddai Paul Atkinson, cyfarwyddwr cyllid, Wrexham Village Ltd: “Fe wnaethon ni wrando ar gynigion Banc y Co-op a darganfod eu bod yn frwdfrydig ac yn eiddgar i fod yn rhan o’r fenter. Roedd y Co-op yn cynnig hyblygrwydd a diddordeb personol nad oedd y banciau eraill y gwnaethom gysylltu â nhw yn eu cynnig.”
Meddai Steven Peck, rheolwr busnes Canolfan Bancio Corfforaethol Banc y Co-operative Manceinion: “Hyd yn oed yn yr hinsawdd economaidd wastadol galed sydd ohoni, rydym yn gallu parhau i roi cefnogaeth ariannol i fusnesau, yn enwedig rhai uchelgeisiol fel Wrexham Village Ltd.”
Datgelwyd manylion cynllun Pentre Wrecsam i ddechrau ym mis Rhagfyr 2008 fel rhan o gynlluniau ehangach i ailddatblygu tir y Cae Ras a rhoi hwb i gyllid CPD Wrecsam.
Cymeradwywyd y cynlluniau ar gyfer rhan gyntaf y preswylfeydd gan Gyngor Wrecsam ym mis Ebrill 2009.
|