|
|
Prosiect Garddwriaeth £1.64m i Gael ei Arwain Gan Brifysgol Glyndŵr Sir Y Fflint02 Chwefror 2010
Mae Prifysgol Glyndŵr wedi sicrhau nawdd ariannol gwerth £1.64 miliwn trwy’r Cynllun Effeithlonrwydd Cadwyn Gyflenwi, sy’n rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013. Prif amcan y Cynllun yw cynorthwyo ffermwyr, tyfwyr a choedwigwyr i ddatblygu mentrau cydweithrediadol, sy’n canolbwyntio ar gadwynau bwyd trwy ddarparu’r gefnogaeth adeiladu cymhwsedd nad yw ar gael trwy unrhyw system arall. Ariannir Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 gan Lywodraeth y Cynulliad a’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig. Bydd Prifysgol Glyndŵr, sydd wedi ei lleoli yn Llaneurgain, Sir y Fflint, yn casglu gwybodaeth am y farchnad a phroffilau cynhyrchu garddwriaethol bwyd a meithrinfeydd yng Nghymru fel rhan o brosiect tair-blynedd sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cadwynau cyflenwi garddwriaethol yng Nghymru. Bydd yn cael ei phartneru gydag ADAS, Canolfan Organig Cymru a’r Canolfan Defnydd Tir Amgen (CALU) i gwblhau’r prosiect yma. Bydd y prosiect yn cael ei arwain gan Dr David Skydmore, Cyfarwyddwr Prosiect Garddwriaeth ym Mhrifysgol Glyndŵr, a’r Rheolwraig Prosiect Helen Eustace, sy’n arbenigo mewn gwybodaeth am y farchnad a dadansoddi cadwynau cyflenwi. Meddai David: “Bydd yn cynhyrchu ymchwil ynghylch y modd y mae cadwynau cyflenwi yn gweithio a fydd o fudd enfawr i’r diwydiant garddwriaethol yng Nghymru. “Ar hyn o bryd nid oes gan Gymru gronfa ddata ystadegol ganolog am dyfwyr a chynhyrchu – eu maint, y mathau o gnydau y maent yn eu cynhyrchu, y modd y mae eu cynnyrch yn cwrdd â’r galw – sy’n golygu ei bod yn anodd iawn i gynhyrchwyr newydd benderfynu pa gnydau i’w tyfu. Casglu’r holl ddata yma fydd y cam cyntaf i ni. “Y cam nesaf fydd cysylltu gyda gymaint o dyfwyr ag y gallwn. Nid oes gan Gymru lawer o dyfwyr mawr ond yn hytrach lawer o dyfwyr llai, â llawer ohonynt yn ei chael yn anodd i farchnata eu cynnyrch. "Rydym ni yma i’w helpu i ganolbwyntio mwy ar fusnes,” ychwanegodd Dr Skydmore. Bydd cefnogaeth yn amrywio o helpu tyfwyr i ddatblygu cynnyrch newydd sydd â’r potensial i ddenu diddordeb prynwyr, i’w helpu i brofi eu cynnyrch ac awgrymu ffyrdd y gallant wella eu technegau prosesu. Daw hyn yn sgil ymgynghoriadau a chyngor gan arbenigwyr o fewn y diwydiant garddwriaeth, yn hytrach na thrwy gefnogaeth ariannol. Meddai’r Rheolwraig Prosiect Helen Eustace: “Mae cadwynau cyflenwi garddwriaethol yn faes sydd â llawer o botensial ar gyfer twf yng Nghymru felly mae gweithio ar brosiect a allai gael gymaint o impact ar gyfer tyfwyr yn gyffrous iawn. "Erbyn diwedd y tair blynedd dylai fod yna gyfoeth o wybodaeth ar gael i fusnesau garddwriaethol i’w helpu i ffurfio eu strategaethau busnes eu hunain.” Meddai Elin Jones, y Gweinidog Materion Gwledig: “Rydym yn gwybod ers tro, er mwyn cael diwydiant garddwriaeth llewyrchus a chynaliadwy, ei bod yn hanfodol ein bod yn cydweithio trwy’r gadwyn gyflenwi. "Rwyf yn croesawu lansiad y rhaglen yma, a gyflenwir gan Brifysgol Glyndŵr, sy’n bwriadu datblygu a lledaenu gwybodaeth bwysig am y farchnad i’r diwydiant ehangach, dynodi marchnadoedd cyfredol a’r dyfodol ac edrych ar ffyrdd o hybu cymhwysedd garddwriaeth yng Nghymru." |
|