|
|
Myfyrwyr cyfryngau yn lansio sianel deledu Prifysgol Glyndŵr16 Tachwedd 2010 Mae myfyrwyr cyfryngau ym Mhrifysgol Glyndŵr yn apelio at gymuned Wrecsam am syniadau ar gyfer rhaglenni a chymorth gweithredol wrth iddynt baratoi i lansio sianel deledu ar-lein o’r enw GTV. Mae crëwyr GTV yn gwahodd pobl Wrecsam i Theatr Nick Whitehead y Brifysgol Ddydd Llun, 22 Tachwedd am 5pm i ddarganfod sut y gallant gyfranogi yn y gweithrediadau a’r rhaglennu. Meddai llefarydd GTV, Melanie Salisbury: “Rydym yn gobeithio temtio myfyrwyr, trigolion a chynrychiolwyr elusennau, cyrff cymunedol a busnesau i gynnig syniadau ar gyfer rhaglenni a helpu tu ôl i’r llenni. Mae cefnogaeth y cyfranogwyr posib yma yn hanfodol i lwyddiant y sianel ac edrychwn ymlaen at eu croesawu.” Mae GTV yn manteisio ar rym teledu i ddod â phobl at ei gilydd i gynhyrchu, gwylio ar y cyd a thrafod. Mae’n chwarae rôl allweddol wrth uno holl garfannau myfyrwyr gwahanol Glyndŵr ac wrth annog mwy o ryngweithio rhwng y Brifysgol a chymuned ehangach Wrecsam. Meddai Sally Harrison, uwch ddarlithydd mewn Diwydiannau Creadigol: “Rydym yn benderfynol o greu awyrgylch cymunedol sy’n arllwys tu hwnt i’n campysau, a thrwy hynny yn cyflwyno’r myfyrwyr i fwy o bobl, cyfleoedd a diwylliannau newydd ac, yn y pen draw, yn rhoi profiad prifysgol rhagorach iddynt. ” Bydd y sianel yn darlledu rhaglenni Cymraeg a Saesneg sydd wedi’u cynllunio i integreiddio, hysbysu, goleuo ac ysbrydoli ei chynulleidfa. Bydd y rhaglenni yn cael eu rhannu yn ffrydiau sy’n adlewyrchu’r amcanion craidd yma ac mae gan bob un ei dîm comisiynu, yn cystadlu i ddal dychymyg gwneuthurwur rhaglenni posib. Meddai tîm comisiynu Hysbysu, Qingyun Hu: “Bydd y syniadau am gynnwys gorau yn cwmpasu pob un o’r pedwar o werthoedd, gan dueddbennu at un ffrwd o raglenni ond gan hofran yn agos at y gweddill hefyd.” Bydd gwneuthurwyr rhaglenni yn elwa o adnoddau helaeth y Brifysgol tra’n gweithio ar eu comisiynau. Meddai Sally Harrison: “O ran offer, gwybodaeth a phrofiad, mae’r Brifysgol mewn lle da i gynhyrchu rhaglenni o ansawdd. Fe anogir cyfranwyr i’r sianel weithio ochr yn ochr â myfyrwyr cyfryngau a pherfformio er mwyn gloywi’r sgiliau meddwl beirniadol ac ymarferol a ddysgwyd ganddynt yn ystod eu hastudiaethau.” Mae’n bosib y bydd cyllidebau ar gael i grëwyr cynnwys yn y dyfodol wrth i’r sianel geisio sicrhau nawdd gan gyrff lleol a chenedlaethol. Mae’r gynulleidfa yn codi uwchlaw 6,500 o fyfyrwyr Glyndŵr, yn darlledu i’w teuluoedd a’u ffrindiau ledled Wrecsam a thu hwnt, ac i fyfyrwyr arfaethedig o bob cwr o’r byd. Meddai Melanie Salisbury: “Mae GTV yn ateb hysbysebu cost-effeithiol i gyrff sy’n gobeithio denu cwsmeriaid ar garreg eu drws. Gall denu punt y myfyrwyr fod yn ymdrech broffidiol ynddi’i hun.” Gall pwy bynnag sydd â diddordeb gysylltu â s.harrison@glyndwr.ac.uk am fwy o wybodaeth am y sianel, y cyflwyniad arfaethedig, nawdd a hysbysebu. |
|