Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr wedi bod yn defnyddio theatr a pherfformio i helpu disgyblion ysgolion uwchradd newydd i ymdopi gyda materion fel perthnasau, seiber-fwlio a disgyblaeth yn y dosbarth.
Aeth deg o fyfyrwyr sy’n astudio cwrs gradd Theatr a Pherfformio y Brifysgol ati i ysgrifennu a pherfformio drama 20-munud am newid er mwyn hwyluso cyfnod pontio disgyblion blwyddyn saith o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.
Yna cafodd y disgyblion 11-12 oed gyfle i edrych ymhellach ar rai o’r pynciau yn ystod gweithdy awr-o-hyd dan arweiniad y myfyrwyr.
Cychwynnodd y gweithdy gyda’r disgyblion yn actio eu rwtîn dyddiol wrth i wahanol adegau o’r dydd gael eu galw allan gan fyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr.
Ar gyfer eu tasg olaf, gofynnwyd iddynt feddwl am giplun ffrâm fferru i ddal senario cysylltiedig â bywyd ysgol – fel brwydr fwyd yn y ffreutur, disgyblion wedi’u hanafu ar yr iard ysgol a disgybl yn cael ei roi ar wahân yn y dosbarth am gamymddwyn.
Mynychwyd y digwyddiad gan dros 100 o ddisgyblion blwyddyn saith dros gyfnod o ddeuddydd, gan gynnwys grwpiau o Ysgol Uwchradd y Fflint; Ysgol Uwchradd Dinbych; Ysgol Dewi Sant, Saltney; Ysgol Dinas Brân, Llangollen; Ysgol Uwchradd Y Rhyl; Ysgol Uwchradd Rhosnesni ac Ysgol Bryn Alyn yn Wrecsam.
Meddai Elen Mai Nefydd, Uwch Ddarlithydd mewn Theatr a Pherfformio ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Dyfeisiwyd y ddrama a’r gweithdy gan ein myfyrwyr er mwyn galluogi disgyblion blwyddyn saith i archwilio’r modd y maen nhw’n teimlo eu bod wedi newid ers iddyn nhw symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.
“Nawr fod gennym ni Ganolfan Catrin Finch gallwn gynnal digwyddiadau fel hyn ar gyfer ysgolion lleol ac roedd yr ymateb a gawson ni gan y plant i gyd yn wych.
"Fe wnaethon ni gymysgu plant o wahanol ysgolion gyda’i gilydd a dywedodd llawer ohonyn nhw gymaint y gwnaethon nhw fwynhau gwneud ffrindiau newydd.”
Ariannwyd y cynllyn gan Ymestyn yn Uwch, Ymestyn yn Ehangach, sef menter Cymru-gyfan i annog pobl o grwpiau tangynrychioledig mewn addysg uwch i fynd i brifysgol – gan gynnwys y rheiny o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, grwpiau lleiafrifoedd ethnig, pobl gydag anableddau a phobl sy’n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae cynlluniau ar y gweill yn barod i gynnal gweithdai tebyg gyda disgyblion blwyddyn naw o bob rhan o ogledd ddwyrain Cymru.
Meddai Andy Jones, Pennaeth Blwyddyn Saith yn Ysgol Bryn Alyn: “Roedd y gweithdai yn gynhyrchiol iawn, yn enwedig trwy roi cyfle i’n disgyblion ryngweithio gyda disgyblion o ysgolion eraill.
“Roedd y sesiynau yn amlygu’r newidiadau y mae ein disgyblion iau yn eu hwynebu pan ddônt i’r ysgol uwchradd i ddechrau.
"Mae dysgu am fwlio, parchu pobl eraill, gwneud penderfyniadau a pharchu penderfyniadau pobl eraill yn rhywbeth y byddant yn elwa ohono yn fawr.”
Y cynhyrchiad mawr nesaf a fydd yn cael ei berfformio gan fyfyrwyr Theatr a Pherfformio Prifysgol Glyndŵr yw Bouncers and Shakers gan John Godber o’r 25-27 Mai yng Nghanolfan Catrin Finch.