|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2010 > Mae Diwrnod Cefnogi Graddedigion
|
||
|
|
Mae Diwrnod Cefnogi Graddedigion10 Mehefin 2010Mae Diwrnod Cefnogi Graddedigion Prifysgol Glyndŵr yn rhan o GradStart, cynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru i helpu graddedigion sy’n byw neu’n astudio yng Nghymru i ddod o hyd i waith. Bydd y digwyddiad, a gynhelir Ddydd Mercher 16 Mehefin 2010, yn rhoi cyfle i raddedigion diweddar drafod sut i ysgrifennu CV o’r radd flaenaf, sut i farchnata eu hunain ar gyfer darpar gyflogwyr a ble i edrych am gyfleoedd profiad gwaith. Bydd staff o Ganolfan Yrfaoedd Prifysgol Glyndŵr ar gael hefyd i gyflenwi cyfweliadau ffug. Datgelodd ystadegau diweddar gan yr Uned Gwasanaethau Gyrfaoedd Addysg Uwch fod diweithdra ymhlith graddedigion yn y DU mor uchel â 44% erbyn hyn ar gyfer rhai cyrsiau gradd. Meddai’r Cynghorydd Gyrfaoedd Neil Pritchard: “Mae dod o hyd i waith addas yn dal i fod yn bryder i gannoedd o raddedigion sy’n byw yng Nghymru, ond trwy gael gafael ar gyngor ynghylch gyrfaoedd, sgiliau cyfweld a chyfleoedd profiad gwaith, gall graddedigion roi eu hunain gam o flaen y gêm. “Sefydlwyd y Diwrnod Cefnogi Graddedigion er mwyn helpu i roi hwb i yrfaoedd myfyrwyr, a bydd cefnogaeth trwy GradStart yn parhau i gael ei chynnig yn hyblyg ar ôl y digwyddiad.” Bydd cynllun GradStart, menter Cymru-gyfan y mae pump o brifysgolion eraill ledled y wlad yn cymryd rhan ynddi, yn rhedeg hyd at fis Ionawr 2011. Fe’i cefnogir gan Fenter Cefnogi Economaidd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Cynhelir y Diwrnod Cefnogi Graddedigion rhwng 9.30am a 4pm Ddydd Mercher 16 Mehefin ar safle Plas Coch Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam. Mae’n agored i bob graddedig diwaith neu dangyflogedig o’r DU neu’r UE sy’n byw yng Nghymru. Er mwyn archebu ar-lein ewch i www.glyndwr.ac.uk/careers, neu fel arall ffoniwch y Ganolfan Yrfaoedd ar 01978 293240. |
|