|
|
Mae Chwaraeon Prifysgol Glyndŵr wedi myned i bartneriaeth arloesol gyda Chwaraeon Cymru i ddatblygu darpariaeth addysg hyfforddwyr ledled Gogledd Cymru08 Mehefin 2010Mae Chwaraeon Prifysgol Glyndŵr wedi myned i bartneriaeth arloesol gyda Chwaraeon Cymru (Cyngor Chwaraeon Cymru gynt) i helpu i ddatblygu mwy ar gydlyniad a darpariaeth addysg hyfforddwyr ledled Gogledd Cymru. Cyflawnir y nod o gynyddu’r derbyniad ar flynyddoedd blaenorol trwy weithio mewn partneriaeth agos a chodi ymwybyddiaeth o’r ystod o gyrsiau sydd ar gael. Bydd hyn yn cefnogi strategaeth sydd ohoni Chwaraeon Cymru, Mwy o Hyfforddwyr Gwell Hyfforddwyr, yn ogystal â chydfynd â’r ymgyrch Tu Ôl i Bob Seren amlwg a fydd yn ymweld â chanolfan siopa Dôl yr Eryrod Wrecsam ar 24 a 25 Medi 2010. Fel rhan o’i gorchwyl ehangach fel aelod o Sefydliad Chwaraeon Rhanbarthol Gogledd Cymru, mae Prifysgol Glyndŵr wedi cyflogi Rex Stevens fel Rheolwr Addysg Hyfforddwyr ymgynghorol ac wedi penodi Kirsty Percival fel Swyddog Addysg Hyfforddwyr. Y nod hirdymor yw gweld Canolfan Gwyddor Chwaraeon, Hyfforddi a Datblygu yn cael ei datblygu ym Mhrifysgol Glyndŵr, yn sgîl cytundebau partneriaethol gydag adrannau academaidd, cyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon, awdurdodau lleol a Sefydliad Chwaraeon Rhanbarthol Gogledd Cymru. Mae gwaith wedi dechrau hefyd ar gydlynu Wythnos Addysg Hyfforddwyr ar gyfer mis Hydref 2010 a fydd yn gweld ystod eang o gyrsiau yn cael eu rhedeg ym Mhrifysgol Glyndŵr a ledled Gogledd Cymru. Yn ogystal â’r uchod, bydd Kirsty Percival yn cefnogi ysgolion Addysg a Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer y brifysgol i hybu cyfleoedd addysg hyfforddwyr i israddedigion. Diwedd Bydd yr Wythnos Addysg Hyfforddwyr yn cychwyn Ddydd Llun 25 Hydref 2010. Cysylltwch â Kirsty Percival ar 01978 293590 am fwy o wybodaeth. |
|