|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2010 > Llwyddiant Ysbugol i gynhyrchiad drama prifysgol Glyndŵr
|
||
|
|
Llwyddiant Ysbugol i gynhyrchiad drama prifysgol Glyndŵr14 Ionawr 2010
Mae myfyrwyr Theatr a Pherfformio ym Mhrifysgol Glyndŵr yn dathlu ar ôl denu’r cynulleidfaoedd uchaf erioed i’w sioe Nadolig flynyddol gyda chynhyrchiad o Blood Brothers gan Willy Russell. Bu’r myfyrwyr yn perfformio ger bron cynulleidfa lawn o 170 ar gyfer pob un o’u pump sioe yng Nghanolfan Catrin Finch, Wrecsam, ddechrau mis Rhagfyr. Roedd y cynhyrchiad yn cynnwys dros 50 o fyfyrwyr o bob un o dair blynedd cwrs gradd Theatr, Teledu a Pherfformio Prifysgol Glyndŵr. “Dyma’r tro cyntaf i ni berfformio sioe gerdd yn gyhoeddus felly mae’r myfyrwyr yn haeddu clod aruthrol. Rydym yn edrych ymlaen at ein cynhyrchiad nesaf yn barod.” Mae Blood Brothers yn adrodd hanes efeilliaid, Micky ac Eddie Johnson, a wahanwyd ar eu genedigaeth gan dyfu i fyny mewn cefndiroedd cymdeithasol cwbl wahanol, cyn i’w llwybrau groesi yn nes ymlaen yn eu bywydau gyda chanlyniadau trychinebus. Cynhelir cynhyrchiad nesaf Prifysgol Glyndŵr ym mis Mai yng Nghanolfan Catrin Finch. Diwedd |
|