|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2010 > Llwyddiant Band Pres Wrecsam Glyndŵr mewn cystadleuaeth
|
||
|
|
Llwyddiant Band Pres Wrecsam Glyndŵr mewn cystadleuaeth11 Mehefin 2010Mae Band Pres Wrecsam Glyndŵr wedi bod yn dathlu mwy o lwyddiannau ar ôl dod i’r pump uchaf mewn cystadleuaeth bandiau pres cenedlaethol. Daeth y band yn bumed yng nghystadleuaeth y Prif Dlws mewn gŵyl wanwyn yn Winter Gardens Blackpool. Digwyddiad gwahoddiad yn unig yw’r Prif Dlws, yn ogystal â bod yn drydedd lefel cymhwyso ar gyfer Pencampwriaethau Bandiau Pres Agored Prydain, sef prif gystadleuaeth bandiau pres Prydain a gynhelir yn neuadd y Symphony Hall, Birmingham bob mis Medi. Roedd y canlyniad yn nodi ail lwyddiant y band mewn deufis, ar ôl iddynt gyrraedd cystadlaethau terfynol Pencampwriaethau Cenedlaethol Bandiau Pres Prydain 2010 yn gynharach yn y flwyddyn. Gwnaeth Band Pres Wrecsam Glyndŵr argraff yn y gystadleuaeth yn Blackpool gyda’u fersiwn o Disgrifiodd 4barsrest.com, gwefan fwyaf bandiau pres y DU, y canlyniad fel "perfformiad wedi’i saernïo’n dda a gadarnhaodd y cynnydd calonogol y mae Band Pres Wrecsam Glyndŵr yn ei wneud o dan gyfarwyddyd gofalus Wayne Ruston [y cyfarwyddwr cerddorol]." Meddai Mr Ruston: "Roeddem yn falch o fod wedi cael canlyniad mor dda yn yr hyn oedd yn faes caled. Mae’r band yn aeddfedu trwy’r amser ac rwy’n siŵr y cawn ddisgwyl ambell lwyddiant arall yn y dyfodol." Ffurfiwyd Band Pres Wrecsam Glyndŵr, sydd â 30 o aelodau, yn wreiddiol yn Bydd y band yn cystadlu yn erbyn 17 band arall yn y DU yng nghystadleuaeth derfynol y Pencampwriaethau Bandiau Pres Cenedlaethol yn Harrogate ym mis Medi. 'Le Roi D'Ys' Edouard Lalo. 1884 ond fe newidiodd ei enw i gynnwys Wrecsam wrth i fwy a mwy o aelodau gael eu recriwtio o du allan i’r pentref. Mae’r band wedi cael ei gefnogi gan Brifysgol Glyndŵr ers 2001. |
|