|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2010 > Hyfforddwyr Cymreig y dyfodol
|
||
|
|
Hyfforddwyr Cymreig y dyfodol04 Hydref 2010
Yn hytrach na dim ond gwylio Delhi 2010 ar y teledu, a hoffech chi fynd i Gêmau’r Gymanwlad Glasgow 2014 yn cefnogi athletwyr Cymreig?
Mae Prifysgol Glyndŵr yn ymgymryd â’r brif rôl o gefnogi’r cynllun Chwaraeon Cymru, Tu Ôl i Bob Seren, sy’n anelu i ysbrydoli hyfforddwyr a gwirfoddolwyr a mwy o bobl ledled Cymru i ymwneud â Chwaraeon. Ym mis Hydref, cynhelir y mis Addysg Hyfforddwyr agoriadol ledled gogledd Cymru. Yn ystod y mis bydd yna ystod eang o gyfleoedd cyffrous trwy’r ardal i gyd. Mae Chwaraeon Prifysgol Glyndŵr yn cydlynu’r rhaglen yn ganolog mewn partneriaeth â phob un o chwech awdurdod lleol gogledd Cymru, cyrff llywodraethu cenedlaethol a Cholegau/Prifysgolion. Bydd un digwyddiad poblogaidd, y cwrs Hyfforddi Cynhwysiad Anabledd y DU yn cael ei gyflwyno gan Ffederasiwn Anabledd Chwaraeon Cymru ar gampws Wrecsam Prifysgol Glyndŵr ar y 26ain o Hydref 2010, 9am – 4pm. Bwriad yr hyfforddiant, sydd yn un theori ac ymarferol, yn rhoi syniadau ac ysbrydoliaeth i hyfforddwyr pob chwaraeon i addasu eu sesiynau er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch i gyfranogwyr anabl. Rhedir y cwrs am bris gostyngedig o £25 y pen yn unig am gwrs chwech awr. Er mwyn mynd i Gaeredin, y cam cyntaf yw cysylltu â Kirsty Percival, Swyddog Addysg Hyfforddwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr, ar 01978 293590 neu ebostio coacheducation@glyndwr.ac.uk. Gallwch hefyd fynd i wefan Hyfforddiant Cymru ar www.coachingwales.com. |
|