Mae Prifysgol Glyndŵr wedi penodi Dr Allan Howells fel Dirprwy Is-Ganghellor Gweithrediadau.
Yn sgil y swydd newydd bydd Dr Howells yn ymgymryd â chyfrifoldeb gweithredol dros swyddogaethau gweinyddol a gwasanaethau cefnogi academaidd yn y Brifysgol yn Wrecsam, Gogledd Cymru.
Bydd Dr Howells yn ymuno â Phrifysgol Glyndŵr o Brifysgol Keele, ble bu’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd.
Ar ôl graddio mewn Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a’r Gofod o Brifysgol Cymru Aberystwyth, treuliodd chwe mlynedd fel ymchwilydd yn y brifysgol honno, gan gael PhD mewn Ffiseg Atmosfferig.
Symudodd Dr Howells i faes rheolaeth a gweinyddiaeth prifysgol gyntaf yn 1994 ym Mhrifysgol Sheffield, gan weithio i ddechrau ym meysydd strategaeth a pholisi ymchwil sefydliadol.
Symudodd i Brifysgol Keele yn 2000 i sefydlu swyddfa cynllunio strategol a darparu cefnogaeth weithredol i arweinyddiaeth y Brifysgol.
Mae ei gyraeddiadau mewn addysg uwch hyd yma yn cynnwys ailstrwythuro’r fframwaith academaidd ym Mhrifysgol Keele, er mwyn galluogi’r Brifysgol i ymateb i’r newidiadau cynyddol i’r amgylchedd addysg uwch allanol.
Yn fwy diweddar, bu’n arwain gweithrediad adolygiad arwyddocaol o’r cwricwlwm, gyda’r bwriad o gyflenwi cwricwlwm mwy hyblyg oedd yn cwrdd ag anghenion a gofynion darpar fyfyrwyr mewn marchnad gyflogaeth fwy heriol.
Gan sôn am ei benderfyniad i symud i Brifysgol Glyndŵr, meddai Dr Howells: “Mae Prifysgol Glyndŵr mewn adeg diddorol iawn yn ei hanes.
"Yn ddiweddar, dyfarnwyd teitl a statws prifysgol iddi, sydd yn gyflawniad ardderchog. Yn awr mae’n rhaid adeiladu ar statws Prifysgol, ateb disgwyliadau bod yn Brifysgol a symud y Brifysgol yn ei blaen.
“Rwy’n gyffrous ynglŷn â dod i rywle sydd ar fin cyflawni pethau mawr.
"Rwy’n gweithredu o safle gref, yn enwedig o ran cysylltiadau’r Brifysgol â diwydiant – gall myfyrwyr ddod yma a chael swydd dda ar ôl iddyn nhw adael – ond rhaid i ni’n awr gymryd y cam nesaf ac rwyf eisiau i’r Brifysgol hon fod yn wirioneddol lwyddiannus a chyflawni ei photensial.
"Heb os nac oni bai, yr hyn sy’n fy ysgogi i fwyaf yw gweld cyrff yn cyflawni eu potensial a gweld unigolion yn cyflawni eun potensial.
“Y gobaith yw gwneud Prifysgol Glyndŵr yn brifysgol o safon ryngwladol.
"Mae arnom eisiau i Brifysgol Glyndŵr fod yn adnabyddus trwy’r byd i gyd am bethau gwirioneddol gadarnhaol – addysgu rhagorol, ymchwil flaengar a graddedigion hynod gyflogadwy.”
Yn wreiddiol o Blaina, cyn bentref glofaol ym Mlaenau Gwent yn Ne Cymru, dywedodd Dr Howell ei fod yn awyddus i barhau ag enw da’r Brifysgol am gynnig cyfleoedd addysg uwch i bawb sydd â photensial, ni waeth beth fo eu cefndir.
“Dim ond yn ddiweddar y sylweddolais fy mod i’n nodweddiadol o fyfyriwr ehangu cyfranogiad,” meddai. “Cefais fy ngeni i deulu ffermio mewn rhan anghysbell o Dde Cymru a fi oedd y cyntaf o’m teulu i fynd i brifysgol.
"Rwy’n wastad wedi cael cefnogaeth wych gan fy nheulu ac wedi mynd ymlaen i gyflawni.
"Ni ddylai unrhyw beth atal unrhyw un o lwyddo mewn bywyd a chyflawni, ac un peth sy’n rhaid i ni ei wneud fel Prifysgol yw parhau i ddod o hyd i ffyrdd o’u cefnogi a chyflawni eu potensial.
“Mae yna fyfyrwyr dosbarth rhyngwladol yn ac o amgylch Wrecsam, ac fel Prifysgol dylai datgloi’r potensial hwnnw fod yn un o’n swyddogaethau. Hyd yn oed os nad ydynt yn dod i astudio yma, rydym eisiau iddynt elwa o gael prifysgol yn Wrecsam.”
Mae Dr Howells yn briod gyda dau o blant bach. Y mae’n Gymrawd o Gymdeithas Rhyngblanedol Prydain ac yn golffiwr brwd yn ei amser hamdden.
"Ymhlith ei ddiddordebau eraill y mae dilyn rygbi Cymru – a dilyn ei frwdfrydedd dros deithiau dynol i’r gofod."