|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2010 > Bragu argraffiad arbennig o Gwrw Prifysgol Glyndŵr
|
||
|
|
Bragu argraffiad arbennig o Gwrw Prifysgol Glyndŵr07 Mehefin 2010
Mae cyflenwad unigol o gwrw a gynlluniwyd gan fyfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr wedi cael ei gynhyrchu a’i botelu. Ymwelodd pump o fyfyrwyr â bragdy Brewdog yn yr Alban i weld eu creadigaeth, cwrw cyflenwad bach o’r enw 1412, yn cael ei gynhyrchu. Crëwyd 1412 gan fyfyrwyr fel rhan o gystadleuaeth i ddathlu’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang. Roedd y gystadleuaeth yn rhoi her i fyfyrwyr gynllunio cysyniad ar gyfer cwrw newydd i hyrwyddo’r brifysgol, gan gynnwys awgrymiadau ar gyfer blas, diwyg a brandio. Treuliodd Mark Scott, Michelle Roberts, Qingyun Hu, Yz Wez a Phillip Chan, myfyrwyr dylunio a chyfryngau sy’n astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr, ddiwrnod yn Fraserburgh, cartref bragdy Brewdog, yn gweld sut mae cwrw yn cael ei greu o syniad i’r botel. Meddai Mark Scott: “Roedd yn daith anghygoel, yn bendant yn un o’r profiadau gorau i mi eu cael yn y brifysgol. Roedd ymweld â bragdy yn enghraifft eithaf unigryw o ddysgu am y ffordd y mae busnes llwyddiannus yn gweithio, ac yn un sy’n mynd i aros yn y cof am gyfnod maith.” Meddai Matthew Draycott, Cyfrannog Menter ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Mae’r gystadleuaeth a’r profiad o weld eu cwrw eu hunain yn cael ei gynllunio wedi helpu i ddatblygu ysbryd entrepreneuraidd y myfyrwyr yn aruthrol. “Mae Brewdog yn fragdy annibynnol llwyddiannus, a sefydlwyd gan ddau ffrind a fachodd ar gyfle a bwlch yn y farchnad. Roedd yn enghraifft ragorol i’r myfyrwyr o ble y gallai eu menter a’u dyfeisgarwch fynd â nhw ar ôl iddyn nhw raddio – yn ogystal â’u cyflwyno i rai o’r heriau y gallant eu hwynebu.” Lansiwyd y cwrw yn Nawns Haf flynyddol y Brifysgol Ddydd Gwener 28 Mai a bydd ar werth ym Mar Urdd y Myfyrwyr am gyfnod cyfyngedig. |
|