|
|
Anturiaethwyr o Brifysgol Glyndŵr yn paratoi ar gyfer taith 2500 milltir ar draws India07 Medi 2010Bydd dau anturiaethwr o Brifysgol Glyndŵr yn gwireddu eu breuddwyd o gwblhau taith 2500 milltir ar draws India mewn cerbyd tair olwyn o faint a phwer peiriant torri glaswellt ar ôl taro targed codi arian o £1000. O dan yr enw ‘Team Altitude,’ bydd y ddau yn cymryd rhan yn y redfa er mwyn codi arian ar gyfer Frankwater, elusen fechan sy’n talu am brosiectau dŵr yfed diogel a chynaliadwy trwy osod cyfleusterau hidlo mewn pentrefi yn India. Ystyrir y Redfa Ricsio yn un o’r heriau antur anoddaf yn y byd, gan ei bod yn golyfu gyrru mewn ricsio dros rywfaint o’r tir mwyaf garw yn yr isgyfandir. Gwnaethont ddiolch i bawb sydd wedi eu helpu i gyflawni’r targed o £1000, eu carreg filltir gyntaf, yn enwedig cwmnïau fel SimVenture ac Opeus Technologies a helpodd y ddau i gymhwyso ar gyfer y redfa gyda’u cyfraniadau hael. Ychwanegodd Kieran: “Mae’r ymateb yr ydym wedi ei gael bobl Wrecsam yn wirioneddol anhygoel, rydym yn ddiolchgar iawn fod gymaint o bobl wedi mynd allan o’u ffordd i hybu newid yn y byd a gwella bywydau pobl.” Yn hytrach na phwyso ar eu rhwyfau, fodd bynnag, mae’r ddau yn benderfynol o godi mwy o arian. “Mae gennym ffordd hir i fynd eto,” meddai Matthew. “Mae angen help arnom gan gyrff a chwmnïau lleol sy’n barod i gefnogi ein hantur wallgo mewn unrhyw ffordd bosib.” Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi’r ddau, neu pe hoffech ymuno â nhw ar eu taith hyd oed (ydi, mae’r drydedd sedd yn dal ar gael), yna gallwch gysylltu â nhw ar eu gwefan: www.altitudefoundation.co.uk neu trwy chwilio am ‘Team Altitude’ ar Facebook. |
|