Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Addysg Uwch yng Nghymru

09 Gorffennaf 2010

Mae’r Gweinidog Addysg wedi amlinellu’n glir mewn nifer o ddogfennau a datganiadau yr hyn y mae’n ei ddisgwyl gan brifysgolion yng Nghymru.

Mae Prifysgol Glyndŵr yn ateb y gofynion hynny ac mewn rhai achosion yn arwain y ffordd yng Nghymru. Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig addysg uwch i bawb a all elwa; mae’n gweithio’n agos â chyflogwyr ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd Cymru yn unol â’i gweledigaeth.

Mae’r brifysgol yn gefnogol o anghenion pob unigolyn a bydd yn parhau – yn enwedig yn ystod cyfnod economaidd heriol – i gefnogi pob myfyriwr o wneud cais i raddio ac i’w gyrfaoedd yn y dyfodol.

Prifysgol Glyndŵr yw’r brifysgol sy’n tyfu cyflymaf yng Nghymru yn ôl ystadegau’r Cyngor Cyllido ac mae’n rhoi nifer o weithredoedd ar waith a fydd yn arwain at ehangu sylweddol o ran y Brifysgol. Mae’n hyderus  bydd yn ateb y gofyniad maint o fewn yr amserlen a osodwyd gan y Gweinidog.

Cysylltwch a ni