Ysgoloriaeth uwchraddedig Prifysgol Glyndŵr 2009
31 Mawrth 2009
Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig ysgoloriaeth uwchraddedig arbennig ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod er mwyn helpu myfyrwyr i barhau a’u hastudiaethau a churo’r dirwasgiad.
Bydd y Brifysgol yn talu am 50% o ffioedd ar gyfer pob cwrs uwchraddedig sy’n cychwyn yn y flwyddyn academaidd 2009-10. Bydd y cynnig yn galluogi myfyrwyr i gael blaen cystadleuol sylweddol yn y farchnad a diogelu eu dewisiadau gyrfaol ar gyfer y dyfodol. Trwy astudio ar gyfer cymhwyster uwchraddedig byddant yn gallu cael sgiliau datblygedig a gwybodaeth arbenigol yn eu dewis faes, gan sicrhau eu bod yn y safle gorau posibl i gymryd mantais o’r cynnydd economaidd pan y daw.
Mae’r cynnig yma o ysgoloriaeth yn cynnwys cyrsiau llawn-amser a rhan-amser ac yn agored i fyfyfwyr blwyddyn olaf Prifysgol Glyndŵr a myfyrwyr prifysgolion Cymreig eraill a fydd yn graddio mewn gradd anrhydedd yr haf yma. Gallai graddedigion o brifysgolion eraill sydd wedi cael gwobr ar lefel gradd anrhydedd fod yn gymwys hefyd os ydynt wedi bod yn byw yng Nghymru am dair blynedd cyn i’r cwrs ddechrau.
Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig cyrsiau llawn-amser, rhan-amser a modiwlaidd sydd wedi’u cynllunio i gwrdd ag anghenion y myfyrwyr i gyd, gyda chyrsiau mewn Addysg, Amgylchedd Adeiledig, Busnes, Celf a Dylunio, Cyfrifiadura, Dyniaethau, Gwaith Cymdeithasol a Chyfiawnder Troseddol, Gwyddoniaeth a’r Amgylchedd, Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Ieithoedd, Meddyginiaeth Gyflenwol, Peirianneg, Rheoli Gwybodaeth, Technoleg Cyfathrebu.
Gweler mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaeth uwchraddedig.
