Y disgwyl hir am arfbais y Brifysgol ar fin dod i ben
11 Chwefror 2009
O’r diwedd, mae’r prif adeilad ym Mhrifysgol Glyndŵr University ar fin cael ei addurno gydag arfbais – dros 50 mlynedd ar ôl i le gael ei wneud ar gyfer un gyntaf.
Datgelodd erthygl am adeilad hanesyddol y Brifysgol yn Wrecsam, a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Architects Monthly ym mis Ionawrn 1954, fod cynllunwyr wedi gadael lle yn fwriadol uwchben y prif ddrysau, wrth ymyl enw’r sefydliad, ar gyfer gosod arfbais.
Ond ni wireddwyd y cynllun, a phan roddodd sir hanesyddol Sir Ddinbych y gorau i fodoli yn 1974 – gan arwain at ffurfio NEWI yn lle Coleg Technegol Sir Ddinbych a Choleg Hyfforddi Athrawon Cartrefle yn 1975 – roedd y syniad fel petai wedi mynd yn angof am byth.
Erbyn hyn mae arfbais newydd wedi cael ei chynllunio ar gyfer Prifysgol Glyndŵr, a gyhoeddwyd fel Prifysgol newydd gan y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, yn ystod seremoni a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2008.
Bydd yr arfbais yn cael ei gosod ar flaen prif adeilad safle Plas Coch yn Wrecsam, fel rhan o ddathliadau wedi’u trefnu ar gyfer Sefydliad seremonïol y Brifysgol a Gorseddiad y Canghellor a’r Is-Ganghellor ar ddydd Sadwrn 28 Chwefror.
Meddai’r Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr: “Rydym wrth ein bodd y bydd gennym arfbais o’r diwedd y gall pawb sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol fod yn falch ohoni. Mae wedi bod yn ffordd faith tuag at sicrhau statws prifysgol ac mae gwobrwyo arfbais yn dangos yn union beth yr ydym wedi’i gyflawni a pha mor bell y mae’r sefydliad wedi dod dros y blynyddoedd.”
Wrth galon arfbais y brifysgol mae’r pedwar lle coch ac aur a ddefnyddir yn arfbais Owain Glyndŵr, ar ôl yr hwn y mae’r Brifysgol wedi cael ei henwi. Cefnogir y llewod gan lyfrau sy’n cynrychioli dysg a chefnogir yr arfau eu hunain gan lew a draig.
Yn cydfynd â’r arfau y mae arwyddair y Brifysgol, Hyder trwy Addysg. Cynlluniwyd yr arfbais gan David White, Herald cyfredol Gwlad yr Haf, swyddog arfau y Coleg Arfau yn Llundain, ystordy ac awdurdod canolog arfau yn y DU.
Bydd yn cael ei chynllunio i’r Brifysgol yn y Sefydliad gan Herald Gwlad yr Haf, a fydd yn mynychu mewn gwisg llys llawn. Ar wahân i ymddangos ar y prif adeilad, byd dyr arbais yn cael ei defnyddio ar ddogfennau ac adroddiadau swyddogol.
Meddai’r Athro Scott: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Herald Gwlad yr Haf am ei waith yn sicrhau fod gennym arfbais erbyn hyn y gall pawb ymfalchïo ynddi. Rydwyf hefyd yn ddiolchgar dros ben i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig mewn llwyddo i greu’r Brifysgol – llwyddiant y byddwn yn ei ddathlu trwy gydol 2009.”
Bydd y Sefydliad yn nodi lansiad swyddogol Prifysgol Glyndŵr. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir fel rhan o Flwyddyn Dathlu’r Brifysgol newydd.
Cynhelir yr ormdaith academaidd ar ddiwrnod y digwyddiad, dydd Sadwrn 28 Chwefror, a fydd yn tarfu’n fyr ar lif y traffig wrth gyffordd Ffordd yr Wyddgrug ble mae Ffordd Grosvenor, Ffordd Bradle a Stryt y Rhaglaw yn cyfarfod. Bydd hyn rhwng 11.20am-11.30am ac yna eto rhwng 1.15pm-1.30pm. Bydd traffig yn llifo fel arfer ar wahân i ar yr adegau hyn.
