Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Y Dirprwy Brif Weinidog yn agor canolfan newydd yn y Brifysgol

29 Ionawr 2009
Y Dirprwy Brif Weinidog yn agor canolfan newydd yn y Brifysgol

Bydd addysgu’r Gymraeg ym Mhrifysgol Glyndŵr ar ei ennill yn sgîl cyfleusterau digidol rhyngwladol flaenllaw sydd wedi cael eu dadlennu gan Dirprwy Brif Weinidog Cymru. 

Cafodd ystafell newydd, sef Ystafell William Morgan, ei hagor yn swyddogol ar gampws Wrecsam y Brifysgol gan Ieuan Wyn Jones ar ddydd Iau 29 Ionawr.

Mae’r ystafell wedi’i chyfarparu â’r gosodiad cyntaf yn y DU o’r Revoluto Beyerdynamic, sef system feicroffôn uwch dechnoleg.

Bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd swyddogol yn y brifysgol, yn ogystal â chan fyfyrwyr sy’n astudio ar radd sylfaen newydd Prifysgol Glyndŵr mewn cyfieithu.

Mae’r ystafell wedi’i henwi ar ôl cyn Esgob Cymru, William Morgan, sef y cyntaf i gyfieithu’r Beibl i gyd i’r Gymraeg.

Meddai’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones: “Mae’r defnydd o’r Gymraeg yn cynyddu ac mae yna lawer o fusnesau yn cydnabod gwerth yr iaith Gymraeg erbyn hyn. Bydd Ystafell William Morgan yn gyfleuster pwysig iawn ar gyfer y gymuned leol yn ogystal â’r brifysgol. Mae’r sefydliad bob amser wedi bod yn ymroddedig iawn i ddarparu cyfleusterau ar gyfer y gymuned, a dylid eu llongyfarch am hynny.” 

Meddai’r Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr: “Roedd yn bleser gennym groesawu’r Dirprwy Brif Weinidog i’r Brifysgol i ddadlennu’r cyfleuster ardderchog yma.

“Rydym mor falch o fod yn brifysgol yng Nghymru ac yn brifysgol i Gymru. Mae’r iaith Gymraeg yn rhywbeth yr ydym yn eithriadol o falch ohoni, felly dyma benderfynu y dylai ein cwrs cyfieithu Cymraeg newydd gael ei addysgu yn yr ystafell yma.”

Cysylltwch a ni