|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2009 > Syrcas Cyflogaeth Ewrop yn dod i’r dref
|
||
|
|
Syrcas Cyflogaeth Ewrop yn dod i’r dref25 Mawrth 2009
Ar y 1af a’r 2il o Ebrill 2009, bydd math gwahanol iawn o syrcas yn dod i’r dref. Bydd Syrcas Cyflogaeth Ewrop yn hyrwyddo swyddi, sgiliau a chyfleoedd cyfartal ar lefel leol ac Ewropeaidd. Bydd y syrcas yn galw ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam, ac mae’r digwyddiad yn ffurfio rhan o ymgyrch UE-eang i hysbysu pobl o bob cefndir ynglŷn â’r hyn y gall Ewrop Gymdeithasol ei wneud i chi, yn enwedig yn ystod y cyfnod o ddirywiad economaidd a diweithdra cynyddol sydd ohoni. Mae Ewrop Gymdeithasol yn effeithio ar bethau sydd yn agos iawn at fywydau bob dydd pobl: swyddi, cyflogaeth, sgiliau a chyfleoedd cyfartal. Bydd pabell y syrcas yn darparu cefndir bywiog a lliwgar i nifer o weithdai a chyflwyniadau wedi’u hanelu at fyfyrwyr, busnesau a’r rheiny sy’n chwilio am gyfleoedd newydd – naill ai adref neu yn yr Undeb Ewropeaidd ehangach. Yn ogystal, bydd gwybodaeth ar gael yn y digwyddiad gan ystod o bartneriaid sydd i gyd yn chwarae rhan mewn cyflenwi polisïau a buddiannau cymdeithasol yng Nghymru a’r DU. "Mae gweithwyr a phobl sy’n chwilio am swyddi o gwmpas Ewrop ymhlith y rheiny sy’n manteisio bob dydd oherwydd polisïau cyflogaeth, cymdeithasol a chyfle cyfartal yr UE, o’r rheiny sy’n dod o hyd i swydd newydd trwy borth EURES i’r 9 miliwn o bobl a hyfforddir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop bob blwyddyn," meddai’r Comisiynydd Ewropeaidd ar gyfer cyflogaeth a materion cymdeithasol, Vladimír Špidla. "Mae’r digwyddiad yma yn amcanu i gyflwyno’r gweithgareddau hyn mewn ffordd hwyliog a hygyrch fel y gall pobl ddarganfod beth all Ewrop gymdeithasol ei wneud drostyn nhw.” Bydd y digwyddiad yn cael ei lansio’n swyddogol amser cinio dydd Mercher 1 Ebrill ac fe fydd yna drafodaeth panel ar ddydd Iau 2 Ebrill o 7.00-9.00pm, yn dilyn thema’r digwyddiad, ar y pwnc “Y Rhaff Dynn Economaidd”. Bydd y drafodaeth yn agored i aelodau’r cyhoedd, yn dilyn cyflwyniadau gan siaradwyr gwadd. Mae ymgyrch Syrcas Cyflogaeth Ewrop yn un o fentrau Cyfarwyddiaeth-Gyffredinol Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol a Chyfle Cyfartal y Comisiwn Ewropeaidd, yn dilyn lansiad yr Agenda Gymdeithasol Adnewyddedig ym mis Gorffennaf 2008, wedi ei threfnu yng Nghymru gan Europe Direct Llangollen a Phrifysgol Glyndŵr. Yn y gorffennol, mae’r ymgyrch wedi ymweld â Chyprus, Malta, y Weriniaeth Tsiec, Ffrainc a Slofacia. Ar ôl bod yn Wrecsam, bydd yr ymgyrch yn symud yn ei blaen i Thessaloniki, Lisbon a Pharis ym mis Mai. |
|