Bydd arysgrifau o lythyr hanesyddol o’r 15fed ganrif a anfonwyd gan Owain Glyndŵr at Frenin Ffrainc yn cael eu cynnwys ar fyrllysg newydd y brifysgol.
Bydd darnau o lythyr Pennal Glyndŵr, a ysgrifenwyd yn fuan ar ôl iddo gael ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru yn 1406, yn cael eu hysgythru ar fyrllysg newydd Prifysgol Glyndŵr, a enwyd ar ôl yr arwr o Gymro.
Bydd y byrllysg seremonïol, a gynhyrchir gan fyfyrwyr o Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru’r brifysgol yn Wrecsam fel rhan o’u gwaith gradd, yn cael ei ddefnyddio mewn seremonïau graddio o’r mis nesaf ymlaen.
Mae byrllysg yr 21ain ganrif yn 1.5m o hyd ac wedi cael ei gwneud yn unigryw o ffibr carbon ysgafn, sef defnydd a ddefnyddir i wneud adenydd awyrennau, mewn teyrnged i bwysigrwydd cwmni peirianneg awyrennau Airbus i ardal gogledd ddwyrain Cymru.
Ymwelodd maer Wrecsam, y Cynghorydd Arwel Jones, â’r ysgol gelf yn Stryt y Rhaglaw yr wythnos hon i weld sut oedd y cyffyrddiadau olaf i’r byrllysg yn dod yn eu blaen – ac i gymharu gwaith y myfyrwyr gyda byrllysg Cyngor Sir Wrecsam. Ymunwyd ag ef gan Ganghellor y Brifysgol yr Arglwydd Barry Jones a’r Is-Ganghellor yr Athro Michael Scott.
Mae Andrew Coomber, gof arian sy’n feistr ar ei grefft o ardal yr Wyddgrug, wedi bod yn arwain criw o 20 o fyfyrwyr trwy’r prosiect, sydd wedi cael ei gefnogi gan grantiau o du Urdd Lifrai Cymru a Chymdeithas Drapers Llundain.
Meddai Andrew: "Y cyfarwyddyd i ni oedd creu cynllun oedd yn cysylltu hanes gogledd ddwyrain Cymru gyda thechnolegau modern a’r dyfodol, a phenderfynodd y myfyrwyr eu bod eisiau cyfuno themâu Owain Glyndŵr, Airbus a diwydiant glo gogledd ddwyrain Cymru.
"Mae’r cynllun terfynol yn cyfuno defnyddiau traddodiadol a newydd – arian, aur a cherrig lled-werthfawr ynghyd â ffibr carbon, aliwminiwm wedi’i anodeiddio, titaniwm a gwydr.
"Nid yw cynllunio byrllysg prifysgol newydd yn rhywbeth y mae llawer o fyfyrwyr celf yn cael y cyfle i weithio arno fel prosiect gradd, ac nid yw’n rhywbeth y maen nhw’n debygol o gael y cyfle i fod yn gysylltiedig ag ef eto yn ystod eu gyrfa, felly maen nhw wedi’u cyfareddu gan yr holl beth. Maen nhw wedi mwynhau pob eiliad o’r broses," meddai Andrew.
Mae’r byrllysg, a gomisiynwyd ar ôl i’r sefydliad yn Wrecsam dderbyn statws prifysgol y llynedd, hefyd yn un o’r prosiectau mwy anghyffredin y mae Andrew wedi gweithio arnynt yn ystod ei yrfa 35 mlynedd fel artist.
"Gofynwyd i mi unwaith gynhyrchu cwpan cymun anferth i’r Pab, a fi wnaeth y tlws a wobrwywyd i gystadleuwyr cyfres wreiddiol The Krypton Factor ar ITV," meddai Andrew, cyn-ddarlithydd yn Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru.
"Ond mae cynllunio byrllysg yn wahanol iawn i’m prif waith erbyn hyn, sef cynhyrchu celf yn fy stiwdio. Mae’r holl brosiect wedi bod yn un hynod o ddiddorol. Ar nodyn personol, mae wedi bod yn wych bod yn gysylltiedig â hyn gan fod y sefydliad a minnau yn mynd yn ôl ymhell. Chwaraeodd ran bwysig yn fy natblygiad i fel artist ac fel athro, ac mae’n wych gweld ei fod yn Brifysgol erbyn hyn."