|
|
Prosiect newydd sy’n mynd â chelf wedi’i hysbrydoli gan Gymru i ddinasoedd mwyaf Ewrop6 Awst 2009Bydd gweithiau celf gyda blas Cymreig yn cael eu harddangos ar strydoedd rhai o ddinasoedd mwyaf Ewrop fel rhan o brosiect newydd dan arweiniad tri o raddedigion Prifysgol Glyndŵr. Derbyniodd Catriona Harvey, o Gaerdydd, Louise Barr, o Huddersfield, a Megan Hindley, o Ynys Manaw, wobr o £1000 gan Urdd Lifrai Cymru i ariannu Prosiect Darlunio Eingl-Gymreig. Mae’r Urdd yn hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a’r celfyddydau cain yng Nghymru ac yn dyfarnu ysgoloriaethau teithio bob blwyddyn i unigolion dethol ledled Cymru. Yn 2009, penderfynodd yr Urdd yn hael i neilltuo un o’i gwobrau i’w dyfarnu trwy gystadleuaeth i raddedigion diweddar o Ysgol Gelf a Dylunio a/neu Ysgol y Dyniaethau Prifysgol Glyndŵr. Cafodd y tair myfyrwraig, sydd newydd raddio, gryn argraff ar feirniaid yr Urdd gyda’u cynlluniau i osod gwaith celf yn rhai o ddinasoedd mawr Ewrop, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth am Gymru. Yn awr byddant yn mynd ati i osod gweithiau celf amrywiol yng Nghaerdydd, Llundain, Paris, Amsterdam a Berlin. Meddai Catriona, a astudiodd Ddarlunio ar gyfer Cyhoeddiadau Plant: "Mae’r wobr yn andros o hwb i ni. Daeth y syniad o arddangos gwaith celf yng nghanol ambell ddinas fawr i ni gyntaf pan deithion ni i Berlin i wneud rhywfaint o waith ymchwil ar gyfer ein graddau. "Roedd cannoedd o ffenestri siop trwy’r ddinas wedi cael eu haddurno’n gywrain ac roedd yn ysbrydoledig iawn. Roeddem eisiau’r cyfle i fynd yn ôl a chymryd rhan mewn rhywbeth felly ein hunain.” Dywedodd Louise eu bod yn awr yn gobeithio teithio o amgylch Ewrop yn meddwl am syniadau ar gyfer gwaith celf a chysylltu ag artistiaid sydd â diddordeb mewn cymryd rhan. Bydd y prosiect yn cael ei redeg trwy’r haf, gan ddod i ben ym mis Medi. Bydd yn cael ei gefnogi gan flogiau ar-lein gydag adroddiadau ysgrifenedig, diweddariadau, darluniau a ffotograffau yn dilyn trywydd y prosiect. "Mae gennym ni rai syniadau am y math o gelf yr ydym eisiau ei harddangos," meddai Louise, a raddiodd yng nghwrs Darlunio Prifysgol Glyndŵr. "Byddai’r thema o ddreigiau yn creu celfyddyd wirioneddol drawiadol a hoffem hefyd gynllunio cutouts carbod y gall pobl ryngweithio â nhw. Rydym eisiau cyflwyno celfyddyd y gall y gymuned gyfan uniaethu ac ymwneud â hi." Cafodd y tîm o enillwyr eu llongyfarch gan Aldie Robarts, a gyflwynodd y wobr i’r myfyrwragedd ar ran Urdd Lifrai Cymru, gan ddymuno pob llwyddiant iddynt. Am fwy o wybodaeth am yr ystod o gyrsiau celf a dylunio a gynigir gan Brifysgol Glyndŵr, ewch i www.glyndwr.ac.uk/nwsad |
|