Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Prifysgol Glyndŵr yn edrych ar gyfyngiadau cyfrifiaduron

9 Mehefin 2009

Mae Prifysgol Glyndŵr ar fin darganfod a all cyfrifiaduron ddatrys unrhyw fath o broblem mewn gwirionedd.

Bydd yr Athro Vic Grout yn cynnal y bumed darlith yn nghyfres o Ddarlithoedd Athrawol ac Agoriadol 2009 y Brifysgol  pan fydd yn trafod ‘Pa mor anodd all hyn fod? – Arolwg ysgafn ar y ddamcaniaeth cymhlethdod a chyfyngiadau cyfrifiaduron’ ar ddydd Iau 25 Mehefin am 7.00pm.

Bydd y ddarlith yn holi a all cyfrifiaduron a rhaglennu clyfar ddatrys unrhyw fath o broblem mewn gwirionedd neu a oes rhai pethau yn rhy gymhleth i’r rhaglennu mwyaf soffistigedig a datblygedig hyn yn oed.

Mae’r Athro Grout yn Athro mewn Algorithmau Rhwydwaith, sef yr astudiaeth o drefnau mathemategol ac ieithyddol cam-wrth-gam ar gyfer datrys problemau. Yn y sgwrs yma bydd yn edrych ar nodweddion amlwg problemau hawdd ac anodd a sut y gall un problem ymrithio fel problem arall yn aml. Bydd hefyd yn defnyddio nifer o enghreifftiau syml a hawdd eu deall er mwyn trafod y gwahanol lefelau o gymhlethdod sydd yn gysylltiedig â datrys problemau cyfrifiadol.

Meddai’r Athro Grout: “Ymddengys fod yn a fyth yn bodoli sy’n honni fod cyfrifiaduron yn gallu datrys unrhyw beth ond nid yw hyn bob amser yn wir, fel y bydd fy narlith i yn ei ddangos. Yn wir, mae mathemategwyr yn dal i fethu canfod a all rhaglenni cyfrifiadurol ddatrys y problemau mwyaf cymhleth mewn gwirionedd.”

Mae’r gyfres o ddarlithoedd, sy’n rhedeg tan fis Gorffennaf, yn anelu i roi cyfle i’r gymuned ehangach i edrych ar a thrafod ymchwil newydd sy’n cael ei hymgymryd gan Brifysgol  Glyndŵr .   

Meddai’r Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr: “Mae ein cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yn hyn ac rwyf yn ffyddiog y bydd y ddarlith hon yn ennyn llawer o ddiddordeb hefyd. Yma ym Mhrifysgol Glyndŵr mae gennym ethos cryf o gyflwyno cyfleoedd dysgu ac ymwneud â chymaint o bobl â phosib o’r gymuned leol.”  

Ar hyn o bryd mae’r Athro Grout yn arwain y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Rhyngrwyd Gymwysedig (CAIR) ym Mhrifysgol Glyndŵr. Y mae hefyd yn cadeirio cyfres o gynadleddau rhyngwladol dwyflynyddol ar dechnolegau a chymwysiadau rhyngrwyd, a gynhelir gan y Brifysgol yn ei champws yn Wrecsam. 

Bydd y ddarlith yn dechrau am 7.00pm ym Theatr Nick Whitehead ym Mhrifysgol Glyndŵr, Safle Plas Coch, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam. Bydd yna dderbyniad diodydd ar ôl y ddarlith, ble bydd y rhai a fynychodd yn cael cyfle i gyfarfod y siaradwr a thrafod pwnc y noson mewn mwy o fanylder.  

Er mwyn archebu lle ar gyfer y ddarlith yma, cysylltwch â’r Adran Farchnata ar 01978 293931 neu ebostiwch eventsupport@glyndwr.ac.uk

Cysylltwch a ni