Mae gweithlu o sylwedd yn cynnwys pobl fusnes dylanwadol a gweithwyr llywodraeth yn cyfarfod ag arbenigwyr prifysgol i feddwl am gynllun i sirchau fod Gogledd Cymru yn goroesi’r argyfwng ariannol presennol hyd orau ei allu.
Disgwylir i fwy na 50 ffigwr o’r byd busnes a llywodraeth leol fynychu cynhadledd a gynhelir gan Brifysgol Glyndŵr University yn Wrecsam ar ddydd Mercher 14 Ionawr.
Bydd y digwyddiad yn cael ei agor gan yr Athro Michael Scott, is-ganghellor Prifysgol Glyndŵr. Bydd y siaradwyr yn cynnwys Adrian Piper, cynrychiolydd Cymru o Fanc Lloegr, Dr Janet Wademan, rheolwraig gyfarwyddwraig y cwmni datblygu busnes Van Helsing, a’r Athro Neil Garrod, cyfarwyddwr gweithredol menter ac ymrwymiad dinesig y brifysgol. Bydd Chris Burgoyne, o’r banc Swedaidd Handelsbanken, sydd â mwy na 50 cangen yn y DU, hefyd yn siarad yn y gynhadledd.
Meddai’r Athro Garrod: “Rydym eisoes wedi gweld fod economi Gogledd Cymru yn profi – ac yn dal i wynbeu – problemau dirfawr, gyda pherfformiad cwmnïau yn gwanhau a diweithdra cynyddol.
“Mae gan Brifysgol Glyndŵr ran bwysig i’w chwarae wrth helpu i ffurfio a chefnogi adferiad economaidd. Gan weithio ar y cyd gyda’r sectorau cyhoeddus a phreifat rydym yn anelu i gynnig arweiniad, cefnogaeth a datrysiadau i helpu Gogledd Cymru trwy, ac allan o, ddirwasgiad.
“Mae gwrando ar y daroganwyr gwae a phoeni am gostau cynyddol a cholli swyddi yn berffaith ddealladwy ond ddim yn fuddiol iawn. Rydym eisiau helpu i sicrhau fod gweithredu adeiladol yn digwydd. Mae gan y llywodraeth ei ateb ei hun ar gyfer y DU ond bydd y gynhadledd yn ymwneud yn benodol â Gogledd Cymru a beth allwn ni fod yn ei wneud yn yr ardal i helpu’r economi trwy amseroedd anodd.”
Bydd canfyddiadau o’r gynhadledd yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad ar ddechrau mis Chwefror.
“O’r foment y gwnaethon ni grybwyll y syniad am y gynhadledd, mae yna ddiddordeb aruthrol wedi bod o du diwydiant a llywodraeth leol,’ ychwanegodd yr Athro Garrod.
“Byddwn yn trafod syniadau yn y gynhadledd, yna bydd yr adroddiad yn cael ei lunio a’i anfon at y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd ac at bob AS yng Nghymru.
“Ni fydd ein gwaith yn dod i ben yn fan’no, chwaith. Rydym eisiau gweithredu fel seiat ddoethion i helpu economi Gogledd Cymru a byddwn yn parhau i ddatblygu strategaeth hyd yn oed ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi.”