Prifysgol Glyndŵr yn barod i gael ei sefydlu’n swyddogol
23 Chwefror 2009
Bydd Wrecsam yn fôr o gapiau a gynau y penwythnos yma pan fydd Prifysgol y dref yn mynd ati i ddathlu ei statws newydd yn swyddogol.
Bydd dros gant o ysgolheigion ac urddasolion sydd â chysylltiadau â Phrifysgol Glyndŵr, yn ogystal â staff a myfyrwyr Urdd y Myfyrwyr, yn gorymdeithio trwy ganol y dref ddydd Sadwrn i nodi Sefydlu’r Brifysgol a Gorseddiad y Canghellor, y Gwir Anrhydeddyus Arglwydd Barry Jones, a’r Is-Ganghellor, yr Athro Michael Scott.
Disgwylir i Arglwydd-Raglaw Clwyd, Trefor Jones, Uchel Siryf Clwyd, Stephen Dudley Cheshire a Maer Wrecsam, y Cynghorydd David Griffiths, fynychu’r digwyddiad, ynghyd â Raymond Bartley, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych a’r Cynghorydd Quentin Dodd, Cadeirydd Cyngor Sir Fflint.
Bydd y seremoni yn cychwyn yn Eglwys Gadeiriol Santes Fair y Gofidiau a bydd yn parhau ar ôl yr orymdaith yn Eglwys Plwyf San Silyn.
Dywedodd yr Athro Scott fod yr orymdaith trwy ganol tref Wrecsam yn gaddo bod yn ddathliad gwych a bod croeso cynnes i bawb ddod i’w gwylio.
Meddai: “Mae gorseddiad Canghellor yn seremoni draddodiadol a berfformir gan brifysgolion ledled y byd ac yn nodi’r cam olaf i ni ar y ffordd i fod yn brifysgol.
“Bydd y seremoni yn dathlu sefydlu Prifysgol Glyndŵr, prifysgol ar gyfer pobl Wrecsam – y brifysgol y maent wedi bod yn disgwyl amdani ers 120 o flynyddoedd.
“Bydd yn achlysur balch iawn i bawb sy’n gysylltiedig â’r brifysgol a phawb sydd wedi helpu dros y blynyddoedd i roi i’r dref y brifysgol y mae’n ei haeddu.”
Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 11.30am o Eglwys Gadeiriol Santes Fair y Gofidiau, wedi’i harwain gan Fand Catrawd Mercia. Bydd yn gorymdeithio trwy ganol y dref, gan gyrraedd Eglwys Plwyf San Silyn am 11.50am.
Yn ystod y seremoni bydd y Brifysgol yn derbyn ei harfbais newydd gan Herald o’r Coleg Arfbeisiau, cyn i’r gynulleidfa wrando ar ddarlleniadau gan siaradwyr gwadd, ynghyd â cherddoriaeth wedi’i pherfformio gan Gôr Cadeirlan Llanelwy a Band Pres Glyndŵr Wrecsam. Bydd y Bariton enwog Jeremy Huw Williams hefyd yn perfformio, a’r organydd fydd Mervyn Cousins, Cyfarwyddwr Eisteddfod Gydwladol Llangollen.
Bydd un o’r darlleniadau yn dod o Lythyr Pennal a anfonwyd at Frenin Ffrainc gan Owain Glyndŵr yn1406. Roedd hwn yn amlinellu gweledigaeth yr ysgolhaig a’r arweinydd o Gymro o sefydlu prifysgol yng Ngogledd Cymru.
Bydd Michael Collins, ysgolhaig Shakespeareaidd o Brifysgol Georgetown, UDA, hefyd yn rhoi darlleniad o ddrama Shakespeare, Henry IV, ble mae Owain Glyndŵr yn cael ei ddisgrifio. Cynhelir y seremonïau yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Ychwangodd yr Athro Michael Scott: “Mae’r gefnogaeth yr ydym wedi’i chael gan bobl Wrecsam trwy gydol ein cais am statws prifysgol wedi bod yn eithriadol. Gobeithio y bydd dydd Sadwrn yn rhoi cyfle i bawb rannu’r gamp yma gyda ni wrth i ni orymdeithio trwy ganol tref Wrecsam.”
Bydd yr orymdaith academaidd ar ddiwrnod y digwyddiad, dydd Sadwrn 28 Chwefror, yn tarfu’n fyr ar lif y traffig wrth gyffordd Ffordd yr Wyddgrug ble mae Ffordd Grosvenor, Ffordd Bradle a Stryt y Rhaglaw yn cwrdd. Bydd hyn rhwng 11.20am-11.30am ac yna eto rhwng 1.15pm-1.30pm. Bydd y traffic yn llifo yn ôl ei arfer tu allan i’r amseroedd hyn.
Sefydliad y Brifysgol a Gorseddiad y Canghellor a’r Is-Ganghellor yw’r cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir fel rhan o flwyddyn o ddathlu’r brifysgol. Cynhelir cyngherddau, arddangosfeydd, drama a digwyddiadau cymunedol eraill trwy gydol y flwyddyn.
Mae’r digwyddiad yn dilyn penderfyniad Cyfrin Gyngor Ei Mawrhydi i roi teitl Prifysgol ffurfiol ar 3 Gorffennaf 2008 a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog Rhodri Morgan yn ystod seremoni a gynhaliwyd yr un mis.
