Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Première animeiddio anawsterau dysgu

22 Gorffennaf 2009
Premiere animeiddio anawsterau dysgu

Cafodd grŵp o bobl gydag anawsterau dysgu o Llais Wrecsam y profiad cyffrous o wylio eu hanimeiddiadau yn cael eu dangos am y tro cyntaf yn Stiwdio Terry Hands Prifysgol Glyndŵr.

Roedd yr animeiddiadau yn rhan o brosiect o’r enw “fy mywyd i wedi’i animeiddio”. Amcan y prosiect oedd helpu aelodau’r grŵp i archwilio a myfyrio ynghylch y pethau sydd wedi bod yn bwysig yn eu bywyd.

Cafodd pob aelod o’r grŵp gyfle i greu animeiddiad oedd yn bersonol iddyn nhw a chael ei ddangos o flaen cynulleidfa.

Bu Yvonne Eckersley (Uwch Ddarlithydd mewn Cyfathrebu Dylunio ym Mhrifysgol Glyndŵr) yn gweithio gyda’r grŵp i ddatblygu eu hanimeiddiadau fel rhan o’i hastudiaethau PhD. “Mae animeiddio yn fwy na dim ond cartwnau ar gyfer plant bach, mae’n gyfrwng sy’n llawn o bosibiliadau dibendraw gyda’r gallu i gyfathrebu negeseuon ac emosiynau mewn ffordd na all unrhyw gyfrwng arall,” meddai. “Mae’r prosiect wedi galluogi’r grŵp i fynegi pethau mewn ffordd oedd yn bersonol iddyn nhw.”

Mynychwyd y digwyddiad gan y Maer, a fu’n llongyfarch y grŵp ar eu hymdrechion ac yn cyflwyno pob aelod gyda thystysgrif cyrhaeddiad.

Cysylltwch a ni