|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2009 > Peirannydd recordio yn graddio yn 74 oed
|
||
|
|
Peirannydd recordio yn graddio yn 74 oed29 Medi 2009
Bydd peiriannydd recordio sain a fu’n gweithio ar Oliver!, y ffilm gerddorol boblogaidd o’r 1960au, yn un o’r bobl hynaf i raddio o brifysgol yng Ngogledd Cymru pan fydd yn gwisgo ei gap a’i ŵn y mis nesaf – yn 74 mlwydd oed. Ar ôl cael dau lefel-A mewn Hanes a’r Gyfraith, aeth yn fyfyriwr israddedig ar radd Polisi Cyhoeddus a Chymdeithasol Prifysgol Glyndŵr dair blynedd yn ôl. Bydd yn derbyn ei wobr mewn seremoni yn Neuadd William Aston y Brifysgol ar ddiwedd mis Hydref. Gadawodd yr ysgol yn 15 oed gan fynd yn brentis, yna, ar ôl cyfnod o bedair blynedd fel milwr cyffredin gyda Chorfflu Signalau Brenhinol y Fyddin, o 1953-57, aeth ymlaen i weithio i Deledu Cysylltiedig yn Shepperton Studios. Ar y cyfan, bu’n gweithio mewn 36 o wledydd yn ystod ei yrfa, cyn lleihau ei ymrwymiad i’w gwmni rai blynyddoedd yn ôl. “Roedd yr holl yrru yn mynd braidd yn undonog ac roeddwn i’n dechrau blino’n rhwydd, felly erbyn hyn rydw i ond yn gwneud gymaint o waith ag yr ydw i eisiau,” ychwanegodd. “Pan oeddwn i’n 18 oed, yr unig gyfle oedd gennych chi o gael addysg brifysgol oedd os oeddech chi’n fab i feddyg, cyfreithiwr neu reolwr banc. Doedd na ddim yr un cyfleoedd ag sydd yna heddiw. Roedd fy nhad yn beiriannydd, felly dyna’r maes yr es i iddo hefyd. “Y tristwch mwyaf ydi eich bod chi’n mynd yn fyfyriwr aeddfed ac, wrth astudio yn fy oed i, yn gallu gweld ble’r aethoch chi o’i le. Rydw i’n 74 oed yn awr ond petawn i wedi cael gradd anrhydedd pan oeddwn i’n 24, fe allwn i fod wedi gwneud gymaint mwy gyda’m gyrfa.” “Mae’r holl brofiad wedi bod yn un boddhaol iawn,” meddai Clive. “Fel myfyriwr aeddfed roedd pobl yn eitha chwilfrydig ynglŷn â mi, ac roedd cael gymaint o barch gan y genhedlaeth iau yn dipyn o sioc. Ond yn sgil y profiad yr ydw i wedi’i gael yn ystod fy mywyd, roedd pobl ifanc eisiau dod i fy nabod i a chlywed am fy mhrofiadau. “Daeth un ferch ifanc ataf i un diwrnod a gofyn ‘Clive, ydych chi’n gwybod unrhyw beth am yr Ail Ryfel Byd?’ Wel, fe wnes i fyw trwy’r rhyfel, wrth gwrs, felly dyma fi’n rhoi darlith fach ugain munud i griw o tua deg o fyfyrwyr am y rhyfel.” |
|