Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Partneriaeth gofal cleifion arloesol yn mynd o nerth i nerth

8 Rhagfyr 2009

Mae partneriaeth arloesol rhwng Prifysgol Glyndŵr a Hosbis Tŷ Eos sydd yn hybu ansawdd gofal cleifion yng Ngogledd Cymru wedi cael ei henwi fel un o’r rhai gorau o’i bath yn y DU.

Daeth y bartneriaeth i’r rhestr fer yng nghategori gofal lliniariol cynllun gwobrau cenedlaethol ar gyfer y proffesiwn nyrsio.

Mae’r Brifysgol wedi bod yn gweithio ar y cyd gyda’r hosbis ers 2007, gyda staff yr hosbis yn derbyn hyfforddiant proffesiynol yn gyfnewid am roi cyfleoedd lleoliad gwaith i fyfyrwyr.  

Dywedodd Pam Hope, Arweinydd Pwnc mewn Astudiaeth Iechyd ym Mhrifysgol Glyndŵr, ei bod yn falch o’r enwebiad yng Ngwobrau Nyrsio Ar Waith 2009, ble daeth y bartneriaeth i’r ddau uchaf yn y DU. 

“Mae gofal cleifion wrth galon nyrsio, a’n dymuniad ni i wella’r gofal yma oedd y rheswm sylfaenol dros sefydlu’r bartneriaeth,” meddai Pam. “Mae’r wobr yma yn cydnabod faint yn union yr ydym wedi ei gyflawni mewn cyfnod byr.

“Hoffem ddiolch i Dŷ Eos am eu cefnogaeth ac rwy’n siŵr y bydd y bartneriaeth yn mynd o nerth i nerth o hyn ymlaen.”

Mae’r bartneriaeth newydd gwblhau ei blwyddyn gyntaf o weithredu ac yn awr y mae ar fin ehangu ymhellach.

Mae hyn yn cynnwys datblygu mwy ar ymchwil a arweinir gan y Brifysgol. 

“Mae ein nyrsys dan hyfforddiant yn gadarnhaol iawn ynglŷn â’u profiadau lleoliad yn Nhŷ Eos,” meddai Pam. “Yn yr un modd, rydym wedi derbyn atborth yr un mor gadarnhaol gan yr hosbis.”

Meddai Tracy Livingstone, Cyfarwyddwraig Nyrsio a Gwasanaethau Cleifion yn Hosbis Tŷ Eos: "Mae hyn yn enghraifft wych o’r modd y gall cysylltiadau rhwng timau clinigol a chyrff academaidd fod yn greadigol wrth bontio’r bwlch damcaniaeth-ymarfer er mwyn cynnal a datblygu gofal cleifion o ansawdd uchel. 

“Yr wyf yn falch dros ben o’r tîm nyrsio yn yr hosbis sydd wedi bod yn frwd ynglŷn ag ymuno â’r fenter gyfan ac edrychwn ymlaen at ddatblygiadau’r dyfodol mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr."

Mae’r gwobrau Nyrsio Ar Waith yn cydnabod rhagoriaeth ac arloesedd ym mhob maes o nyrsio, gan gynnwys gofal cardiaidd, iechyd plant, iechyd rhywiol, gofal anadlol ac iechyd meddwl. 

Mae gwobrau yn y categori gofal lliniarol yn cydnabod arbenigedd, proffesiynoldeb, sensitifrwydd ac ymroddiad nyrsys sydd wedi gwneud gwahaniaeth anferth i bobl sy’n nesáu at angau, a’u teuluoedd.

Diwedd

Cysylltwch a ni