Mynd â graddau Peirianneg i’r lefel nesaf ym mhrifysgol Wrecsam
4 Mehefin 2009
Bydd un o ddim ond llond llaw o ddynwaredwyr hedfan tra modern yn y DU yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr awyrennau yn Wrecsam.
Mae Prifysgol Glyndŵr wedi gosod y dynwaredwr newydd – un o’r rhai mwyaf blaenllaw yn y byd – fel rhan o uwchraddio cyfleusterau ar raddfa anferth yn ei labordai peiranneg.
Mae’r darn uwch-dechnoleg o offer wedi’i gynllunio i atgynhyrchu mor agos â phosibl y profiad o hedfan awyren – a’r dechnoleg beirianyddol sy’n ei ategu.
Mae cyfleusterau twnnel gwynt gwell a chyfleusterau twnnel gwynt uwchsonig wedi cael eu gosod fel rhan o’r gwelliannau yn ogystal.
Bydd yr offer yn cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau peirianneg awyrennol y Brifysgol, gan gynnwys cyflogedigion Airbus.
Yn ôl Joe Tatler, sy’n arweinydd pwnc mewn peirianneg, mae’r dynwaredwr yn galluogi’r brifysgol i atgynhyrchu’r teimlad a’r egwyddorion peirianyddol tu ôl i unrhyw awyren bron, gan gynnwys awyrennau teithwyr modern, megis yr Airbus A380. Bydd hyd yn oed yn ei gwneud yn bosibl cynllunio a phrofi awyrennau cwbl newydd yn y Brifysgol yn Wrecsam.
“Mae’n wych cael cyfleuster mor ragorol i’n myfyrwyr ei ddefnyddio. Rydym eisiau i’n myfyrwyr fod wedi’u paratoi orau â phosib er mwyn iddynt allu cymryd mantais o’r cynnydd ar ôl y dirwasgiad. Bydd cael gwneud defnydd o’r dynwaredwr o ddydd i ddydd o fantais enfawr iddyn nhw.
“Bydd gan ein graddedigion peirianneg awyrennol fantais bendant pan fyddant yn mynd i fyd diwydiant ar ôl graddio.”
Cyrhaeddodd y dynwaredwr wythnosau yn unig ar ôl i holl raglenni peirianneg Prifysgol Glyndŵr gael eu hachredu’n llawn gan dri prif gorff proffesiynol y diwydiant.
Mae achrediad gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE), Y Gymdeithas Awyrennol Frenhinol (RAeS) a Sefydliad y Peirianwyr Trydanol ac Electroneg (IEEE) ar gyfer pob un o’i chyrsiau gradd peirianneg yn dangos eu bod yn cwrdd â, ac yn rhagori ar, feincnod uchel o ansawdd.
Cwrs yr FdEng Peirianneg Awyrennol, a gynigir yn llawn ac yn rhan amser, yw’r unig un o’i fath yn y wlad i gael i achredu yn y modd yma.
Ychwanegodd Mr Tatler: “Ni ellir gorbrisio gwerth graddio gyda gradd achrededig. Mae’n stamp ar eich pasport gyrfaol – mae mwy a mwy o gwmnïau yn chwilio am aelodau o staff gyda chymwysterau uwch, megis peirianwyr siartredig, ac mae ein cyrsiau yn cwrdd â’r safon gofynnol ar gyfer hyn.”
Darllenwch fwy am y cyrsiau peirianneg sydd ar gynnig ym Mhrifysgol Glyndŵr.
