Myfyrwyr yn rhoi help llaw i Heddlu Gogledd Cymru
24 Mawrth 2009
Mae ffilm sy’n dangos gwaith y gwasanaethau brys yn ardal Gwersyllt yn cael ei chynhyrchu gan fyfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr.
Mae myfyrwyr yn gweithio ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru i greu DVD sy’n canolbwyntio ar droseddu ieuenctid a’r effaith y mae’n ei gael ar y gymuned.
Aeth Heddlu Wrecsam at Brifysgol Glyndŵr yr haf diwethaf a gofyn iddynt gynhyrchu ffilm fer 15 munud o hyd, a fydd yn cael ei dangos mewn llyfrgelloedd, meddygfeydd a swyddfeydd tai. Cymerodd y cynllun, a elwir yn ‘Dirnadaeth Prosiect’, bron i fis i’w ffilmio, gyda sesiynau yn cael eu cynnal bob dydd Mawrth trwy gydol mis Mawrth. Disgwylir i’r DVD terfynol gael ei ryddhau yn gynnar yn haf 2009.
Bydd myfyrwyr sy’n astudio theatr a pherfformio, cysylltiadau’r cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus, darlledu a newyddiaduraeth yn gysylltiedig â’r cynhyrchiad.
Fel rhan o’r ffilmio, bydd myfyrwyr newyddiaduraeth yn cyfweld aelodau o’r gymuned a chyn-droseddwyr, tra bydd myfyrwyr theatr a pherfformio yn actio ac yn ail-greu’r trsoeddau. Dyfeisiodd Prifysgol Glyndŵr gystadleuaeth i fyfyrwyr feddwl am is-bennawd ar gyfer brandio’r ffilm newydd. Y slogan llwyddiannus oedd ‘Undod yn y Gymuned’, a chafodd yr enillydd gyfle i dreulio noson mewn car patrôl gyda Heddlu Wrecsam.
Yn gynharach yr wythnos yma, Maes Awyr Borras yn Wrecsam oedd y lleoliad ar gyfer stỳnt yn y ffilm. Rhoddwyd car ar dân – dan oruchwyliaeth lem y gwasanaethau brys – er mwyn dangos effeithiau llosgi bwriadol a niwed troseddol.
Meddai Elen Mai Nefydd, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Theatr a Pherfformio ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Mae’n rhoi cyfle i’n myfyrwyr theatr a chyfryngau weithio ar brosiect gwerthfawr, go-iawn. Gobeithio y bydd y fideo yn profi i fod yn bwysig wrth ddangos y gwaith eang ac amrywiol a wneir gan y Grŵp Partneriaeth Cymunedol yn ardal gogledd Wrecsam. Ar yr un pryd, rydym yn siŵr y bydd ein myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi cyflawni rhywbeth gwerth chweil wrth greu darn o waith a fydd o werth gwirioneddol yn y byd tu allan i gampws Glyndŵr.”
Meddai David Marsden, Rhingyll Plismona Bro ar gyfer Ardal Gogledd Wrecsam: “Mae’r prosiect yma wedi rhoi cyfle gwych i’r Heddlu gydweithio’n agos gyda myfyrwyr Glyndŵr ar brosiect hynod o werth chweil yr ydym wedi ei fwynhau yn arw. Bydd y myfyrwyr wedi dysgu rhai gwersi da ynglŷn â gweithio gyda gwahanol asiantaethau ar y prosiect.
Bydd y DVD yn rhoi cyfle gwych i ni drosglwyddo neges gref am ganlyniadau pobl ifanc yn ymwneud â throsedd ac anhrefn, ond bydd hefyd yn rhoi neges gref i dawelu meddwl pobl ynghylch y modd y mae’r Heddlu a’r Gwasanaeth Tân ac Achub ac asiantaethau eraill yn gweithio gyda’i gilydd i gadw ein cymunedau yn ddiogel. Mae yna hefyd neges gref i bobl ifanc fod yna ffordd arall, ac mae yna lawer o weithgareddau mwy gwerth chweil i fod yn gysylltiedig â nhw er mwyn osgoi ymhél â throsedd ac anhrefn.”
Mae’r myfyrwyr theatr a pherfformio hefyd wedi sefydlu ysgol haf eleni, a fydd yn cael ei darparu yng nghanolfan gynadledda a chelfyddydau perfformio newydd gwerth £3m Prifysgol Glyndŵr. Felly os ydych yn gobeithio mynd yn actor, dyma gyfle delfrydol i chi wella eich sgiliau a dysgu mwy am yrfa yn y theatr.
Am fwy o fanylion neu i archebu lle, ffoniwch 01978 293409. Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio cwrs, beth am edrych ar fwy o wybodaeth am gyrsiau Theatr a Pherfformio, Cysylltiadau Cyfryngol a Newyddiaduraeth Prifysgol Glyndŵr.
