Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Myfyrwyr yn cael cipolwg ar y diwydiant rasio ceffylau

4 Mawrth 2009
Myfyrwyr yn cael cipolwg ar y diwydiant rasio ceffylau

Carlamodd myfyrwyr sy’n paratoi i fyned i farchnad swyddi ddirwasgedig ar y blaen pan gawsont giplowg ar fyd busnes rasio ceffylau.

Gwahoddwyd criw o fyfyrwyr MSc Marchnata o Brifysgol Glyndŵr i Gae Ras Bangor-is-y-Coed i gael golwg tu ôl i’r llen ar y busnes a’i gysylltiadau gyda noddwyr, jocis, perchnogion ceffylau rasio ac aelodau o’r cyhoedd. 

Aethpwyd â’r myfyrwyr ar daith o amgylch cyfleusterau’r cae a chael cyflwyniad am yr amrywiaeth eang o fentrau marchnata a ymgymerir gan y cae ras. 

Yn ôl Jan Green, uwch ddarlithydd mewn rheolaeth ym Mhrifysgol Glyndŵr, roedd yr ymweliad yn gyfle gwych i’r myfyrwyr weld sut mae’r wybodaeth y maent wedi ei dysgu yn y dosbarth yn cael ei chymhwyso mewn busnes go-iawn.  

“Roedd y myfyrwyr wrth eu boddau gyda’r holl beth. Roedd y cyflwyniad a roddwyd iddyn nhw yn rhagorol ac yn darparu’r myfyrwyr gyda darlun manwl iawn o’r modd y mae’r cae ras yn denu a chadw ei gwsmeriaid.

“Gyda’r hinsawdd fusnes gyfredol fel ag y mae, mae’n bwysicach nag erioed i’n myfyrwyr gael gwybodaeth o lygad y ffynnon am y byd busnes,” ychwanegodd Jan. “Mae Cae Ras Bangor-is-y-Coed yn enghraifft wych o fusnes lleol cryf yn y diwydiant adloniant a bydd profiadau yn sgil yr ymweliad yn bendant yn helpu i gynyddu cyflogadwyedd y myfyrwyr.” 

Meddai Jeannie Chantler, rheolwraig gyffredinol Cae Ras Bangor-is-y-Coed: “Roedd yn bleser gennym groesawu’r myfyrwyr yma. Rydym yn un o’r lleoliadau yr ymwelir â nhw amlaf yn sir Wrecsam, ac mae’r cae ras yn rhan bwysig iawn o’r gymuned. Rydym eisiau i Wrecsam dyfu er budd pawb ac yn croesawu unrhyw gysylltiadau gyda’r brifysgol. Mae’n ardderchog i’r dref fod yna brifysgol yma yn awr ac yr ydym yn fwy na balch i helpu ei datblygiad ym mha bynnag ffordd y gallwn.”

Cysylltwch a ni