Bydd cyfarwyddwr celf sydd wedi gweithio ar sawl gêm Playstation 3 boblogaidd yn ymweld â Phrifysgol Glyndŵr ar ddydd Iau 12 Chwefror. Bydd ymhlith y gwesteion mewn digwyddiad unigryw a gynlluniwyd i roi cipolwg i fyfyrwyr prifysgol ar y diwydiannau creadigol.
Mae Canolfan Yrfaoedd Prifysgol Glyndŵr wedi trefnu rhaglen pedwar-diwrnod o weithdai fel rhan o’i ddigwyddiad Dyfodol Creadigol, i fyfyrwyr o Goleg Celf a Dylunio Gogledd Cymru.
Mae’r criw o arbenigwyr animeiddio, artistiaid llawrydd a chyfarwyddwyr celf a fydd yn darparu’r sesiynau yn cynnwys Cyfarwyddwr Celf Sony Computer Entertainment Europe, Neil Thompson.
Bydd Mr Thompson, sydd wedi gweithio fel cyfarwyddwr celf ar y gêmau Wipeout HD a rhyddfraint Fformiwla 1 PS3, yn siarad gyda myfyrwyr ar ddydd Iau 12 Chwefror am rolau artistiaid o fewn diwydiant gêmau cyfrifiadurol. Bydd hefyd yn rhoi arddangosiad ymarferol o ddulliau artistig sy’n berthnasol i’r diwydiant.
Ymhlith y siaradwyr eraill yn Dyfodol Creadigol, a ddechreuodd ar ddydd Llun 9 Chwefror, bydd Paul Roberts, cyfarwyddwr creadigol yn yr asiantaeth ddylunio Lundeinig JP Creative, a Tracy Simpson, rheolwraig prosiect yn Safle, un o’r cyrff celf gyhoeddus mwyaf yn y DU.
Meddai David Gill, arweinydd pwnc mewn Cyfathrebu Dylunio ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Os edrychwch chi ar y cyfraniad y mae’r diwydiannau creadigol yn eu gwneud i GDP cyffredinol y DU, mae’n anferthol – yn fwy na’r diwydiant adeiladu hyd yn oed.
“Bydd cael ein myfyrwyr i ddeall pwysigrwydd hyn a rhoi’r cyfle iddynt gyfarfod ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant yn beth da i’w gyrfaoedd. Bydd y digwyddiad yn rhoi ciplowg go iawn iddynt ar beth sydd ar gael iddyn nhw fel artistiaid a dylunwyr.”
Mae Dyfodol Creadigol yn cynnwys pedwar diwrnod â thema. Derbyniodd y myfyrwyr awgrymiadau ynghylch sut i farchnata eu hunain ar y Diwrnod Cyflogadwyedd, ar ddydd Llun 9 Chwefror, gyda chyn-fyfyrwyr yn ymweld ar ddydd Mawrth 10 Chwefror i siarad am eu gyrfaoedd hyd yma.
Bydd y digwyddiad yn dod i ben gyda dyddiau â themâu Entrepreneuriaeth a Holwch yr Arbenigwyr ar ddydd Mercher 11 Chwefror a dydd Iau 12 Chwefror.