Miloedd yn mwynhau sbloets yr Ŵyl Wyddoniaeth
7 Ebrill 2009
Llamodd miloedd o ymwelwyr â strafagansa wyddoniaeth ymarferol flynyddol i fyd yr anifeiliaid ble cawsont eu cyfarch gan ddrewgwn, nadroedd, pryfed cop ac arth wen anferth.
Roedd yr anifeiliaid i gyd yn cael eu harddangos yn nigwyddiad Gwychoniaeth 2009, a gynhaliwyd ar gampws Wrecsam Prifysgol Glyndŵr ddydd Sadwrn.
Cafodd ymwelwyr o bob oedran gyfle i weld dros 50 o arddangosion yn dangos pob agwedd ar wyddoniaeth, o dechnoleg i beirianneg a’r corff dynol.
Ymhlith uchafbwyntiau eleni oedd dychweliad Y Sioe Swigod, yn llawn dop o ddelwau a thriciau swigod anhygoel, ac ymweliad gan Bjorn yr Arth Wen.
Roedd yna gyfle hefyd i afael mewn drewgi byw a tsintsila yn Zoofari, a neidr anferth o Chrysalis Pets ym Mwcle.
Mynychodd dros 1,500 o bobl y sbloets wyddonol ac roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol yn ôl trefnydd Gwychoniaeth, Corrina Jeffreys, cydlynydd digwyddiadau Prifysgol Glyndŵr.
Meddai: “Roedd yn ddiwrnod gwych, yn llawn o adloniant gwyddonol rhagorol. Roedd gennym arddangosion dros gampws y brifysgol i gyd a chan eu bod wedi’u rhannu yn wahanol zônau – anifeiliaid, y corff dynol, y ddaear a’r amgylchedd, technoleg, arbrofol modurol a darganfod – roedd yna rywbeth at ddant pawb yno.”
Gwychoniaeth oedd yn cloi Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam 2009, a ddechreuodd ar ddydd Iau 26 Mawrth.
Turiodd y digwyddiad i’r wyddoniaeth tu ôl i’r llais, goleuadau stryd, lefelau’r môr a laseri yn ystod rhaglen wyth niwrnod o dros 40 o ddarlithoedd a chyflwyniadau cyhoeddus.
Ymhlith y rhain yr oedd cyfres o sgyrsiau ar thema seryddiaeth i gydfynd â Blwyddyn Seryddiaeth 2009, a sgwrs agoriadol gan y gyflwynwraig deledu Philippa Forrester, a arferai gyflwyno’r gyfres Tomorrow’s World ar BBC.
Dewiswyd seryddiaeth fel thema cystadleuaeth eleni, gyda phobl o bob oedran yn rhoi cynnig ar ysgrifennu cerdd, stribed comig neu stori fer o dan y teitl ‘Beth sydd yn y Gofod? Siwrnai tu hwnt i’r Ddaear’. Denodd y gystadleuaeth125 o geisiadau o bob cwr o’r byd ac roedd safon y ceisiadau a dderbyniwyd yn ardderchog. Mae’r ceisiadau i gyda ar gael i’w gweld ar-lein yn awr ar wefan Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam.
“Denodd yr Ŵyl bobl o’r ardal i gyd – o Wrecsam, Sir Fflint a Sir Ddinbych i Swydd Amwythig a Swydd Gaer,” ychwanegodd Corrina. “Mae’n dal i fod mor boblogaidd ag erioed ac yr ydym yn edrych ymlaen at ddigwyddiad 2010 yn barod.”
Am fwy o wybodaeth, neu i ddarganfod sut i ychwanegu eich enw at restr bostio gŵyl 2010, ewch i wefan Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam.
