Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Mabolgampwyr a mabolgampwragedd dawnus yn dathlu llwyddiant

20 Chwefror 2009

Mae sêr ym myd chwaraeon – â llawer ohonynt yn gobeithio cystadlu yng Ngêmau Olympaidd 2012 – wedi cael hwb yn eu cais am ennill bri gan Brifysgol Glyndŵr.

Mae 11 o fabolgampwyr a mabolgampwragedd wedi derbyn pecynnau gwobr chwaraeon gan y Brifysgol er mwyn eu galluogi i ddilyn eu dewis faes chwaraeon tra’n astudio am radd.

Mae pob un ohonynt yn cael gwneud defnydd am ddim o gyfleusterau’r brifysgol, cit chwaraeon a chymorth gwyddor chwaraeon fel rhan o’u gwobrau. 

Ymhlith y rhai a dderbyniodd bump ysgoloriaeth chwaraeon y mae’r nofwraig Lowri Tynan, Myfyrwraig Celfyddydau Addurniadol, a ddaeth i rownd derfynol y gystadleuaeth nofio ar y frest 50m yng Ngêmau’r Gymanwlad 2006 ac yn gobeithio bod yn aelod o sgwad Olympaidd Prydain. 

Derbyniodd Sam Chamberlain, myfyriwr Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer, ysgoloriaeth hefyd. Mae ei gampau diweddar yn cynnwys cymryd rhan ym Mhencampwriaeth Nofio Byddar Ewrop a’r Byd (2007). Mae Sam yn aelod o sgwad Cymru ar hyn o bryd ac yn gweithio tuag at gael ei ddethol i dîm Nofio Olympaidd Byddar Prydain Fawr, sy’n cystadlu yn Taiwan eleni. 

Roedd ysgolheigion, bwrsariaid a derbynyddion Prifysgol Glyndŵr yn bresennol mewn Cinio Ysgoloriaethau Chwaraeon a gynhaliwyd ym Mwyty 1887 y Brifysgol.  

Llywyddwyd yr achlysur gan yr Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr, oedd yn falch iawn o lwyddiant y myfyrwyr, a’r Gwir Barchedig Peter Francis, cadeirydd y Pwyllgor Gwobrau Chwaraeon.

Talodd Kirsty Percival, Swyddog Datblygu Chwaraeon Cymunedol a Myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr, deyrnged i’r ymroddiad a’r gwaith caled yr oedd y myfyrwyr i gyd wedi’u dangos yn eu hastudiaethau ac yn eu chwaraeon. 

Meddai: “Mae’n bleser gweithio gydag athletwyr o galibr mor uchel. Pwrpas y gwobrau yw cynorthwyo’r myfyrwyr i gael y cydbwysedd iawn rhwng eu hanghenion academaidd a chwaraeon. Mae gan lawer o’r rhai a dderbyniodd worbau ymroddiad eithriadol i’w chwaraeon, sy’n cymryd llawer o’u hamser.

“Ein rôl ni ym Mhrifysgol Glyndŵr yw eu cefnogi trwy ddarparu cyfleusterau i helpu gyda’u hyfforddiant a thrwy ddarparu cefnogaeth mentor – mae yna offer profi ffitrwydd o ansawdd uchel y gallant ei ddefnyddio yn y Labordy Perfformiad Dynol, ac rydym ni yma i helpu i gefnogi eu chwaraeon, ffordd o fyw a chydbwysedd astudio.” 

Roedd y myfyrwyr eraill a dderbyniodd wobrau ar gyfer 2008/09 yn cynnwys derbynnydd cyntaf Gwobr Bêl-rwyd Prifysgol Glyndŵr, sef gwobr sydd newydd gael ei sefydlu; mae dwy wobr o’r fath ar gael pob blwyddyn academaidd i chwaraewyr pêl-rwyd dawnus, hyfforddwyr neu reolwyr. Eleni, dim ond un person a dderbyniodd yr anrhydedd yma, sef y Sbaenwr Pau Feline Orive.

Mae dwy Wobr Hoci ar gael hefyd yn dilyn yr un meini prawf â’r wobr bêl-rwyd. Un o’r ddau a dderbyniodd y wobr hoci oedd Lorrisa Turner, myfyrwraig Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer yn ei blwyddyn olaf, a dderbyniodd ei gwobr am ei doniau hyfforddi a rheoli yn ogystal ag am gynrychioli Hoci Prifysgol Cymru yn 208. Yr ail oedd y myfyriwr Goleg Celf a Dylunio Gogledd Cymru, y Ffrancwr Emile Reynaud, sydd yn chwaraewr hoci elît gaddawol.

Gwobrwywyd ysgoloriaethau (gwobrau amlchwaraeon) yn ogystal i’r athletydd o Gymro Gawain Rogers, sy’n cystadlu yn y pentathlon, naid uchel a naid driphlyg, Jocelyn Gleave, sy’n cystadlu mewn gornestau Ewropeaidd, a Chris Moss, sy’n cynrychioli gogledd Cymru mewn criced.

Gwobrwywyd bwrsarïau chwaraeon i fyfyrwyr sydd wrthi’n datblygu yn eu chwaraeon. Roedd y derbynyddion yn cynnwys y chwaraewraig hoci Cerys Bills, y seiclwr Miles Jenkins a’r chwaraewr undeb rygbi Peter Dickinson.

Gweler y wybodaeth lawn am ysgoloriaethau a bwrsarïau a wobrwywyd gan Brifysgol Glyndŵr.

Cysylltwch a ni