Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Gwobr gerddorol er anrhydedd cerddorion o Gorwen

23 Medi 2009

Gwobr gerddorol er anrhydedd cerddorion o Gorwen

Bydd athro prifysgol yn ariannu gwobr flynyddol i fyfyrwyr technoleg cerddoriaeth rhagorol er cof am ddau o hoelion wyth y byd cerddorol yng Ngogledd Cymru. 

Mae Peter Excell, Athro Cyfathrebiadau ym Mhrifysgol Glyndŵr, wedi sefydlu gwobr Blodwen a Christmas Evans i israddedigion yn eu blwyddyn olaf sy’n astudio graddau cerddorol yn y brifysgol yn Wrecsam.

Roedd Blodwen a Christmas, hen ewyrth a modryb yr Athro Excell, yn aelodau amlwg o’r sîn gerddorol Cymraeg yng Nghorwen yn nechrau a chanol yr 20fed ganrif. 

Bydd y wobr yn cael ei gwobrwyo i’r myfyriwr/wraig blwyddyn olaf sy’n perfformio orau ar gwrs BSc (Anrh) Recordio Stiwdio a Thechnoleg Perfformio y Brifysgol ac yn cael ei hymestyn i’r cwrs Technoleg Cerddoriaeth newydd wrth i fyfyrwyr ddod trwodd o hwnnw.  

“Roedd Blodwen a Christmas yn gymheiriaid triw a ysbrydolodd genedlaethau o gerddorion dawnus o ardal Corwen,” meddai’r Athro Excell. “Roedden nhw’n gysylltiedig yn bennaf â cherddoriaeth glasurol ac emynau capel – roedd Christmas yn organydd yng Nghapel Seion yng Nghorwen – a gyda’r Eisteddfodau Cenedlaethol.

“Cyfansoddodd Christmas gais arobryn ar gyfer plant Corwen yn yr Eisteddfod yr Urdd gyntaf yn y 1920au, ac roedd Blodwen yn un o raddedigion cyntaf Prifysgol Cymru – roedd hi’n frwd dros hybu addysg yn ein teulu ni, ac rwy’n meddwl mai fi oedd y cyntaf o’r teulu i fynd i’r brifysgol ar ei hôl hi, felly teimlaf fod arnaf i’r ddyled yma o ddiolchgarwch iddi.”    

Mae’r wobr, a fydd yn rhedeg am bum mlynedd i ddechrau, yn cynnwys siec am £50 ynghyd â thystysgrif ag enw’r myfyriwr/wraig arni.

Bydd enillydd cyntaf y wobr yn cael ei gyhoeddi yn seremoni raddio flynyddol y Brifysgol ar ddiwedd mis Hydref.

Ychwanegodd yr Athro Excell: “Nid ydym yn cynnig gradd gerddoriaeth bur ar hyn o bryd, felly cefnogi’r cyrsiau Technoleg Cyfathrebiadau yw’r peth agosaf at hynny. Pan gyrhaeddais yma y llynedd, roedd y pwnc yn un o’r ychydig rai nad oedd yn cynnig gwobr i’r myfyriwr gorau, felly rwy’n falch o drio annog ein myfyrwyr gorau a staff i godi proffil y pwnc.” 

Ar hyn o bryd mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig graddau mewn Recordio Stiwdio a Thechnoleg Perfformio, Technoleg Stiwdio Sain, Cynhyrchu Radio a Chyfathrebu a Thechnoleg Cerddoriaeth. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01978 293439.

Cysylltwch a ni