Gradd sylfaen newydd mewn Ymarfer Llyfrgell a Gwybodaeth ym Mhrifysgol Glyndŵr
13 Awst 2009
Bydd llyfrgellwyr yr 21ain ganrif yn cael eu hyfforddi ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam diolch i bartneriaeth newydd unigryw rhwng arbenigwyr mewn cyfrifiadura a llyfrgellyddiaeth.
Yr hydref yma, bydd y brifysgol yn dechrau addysgu’r derbyniad newydd o fyfyrwyr ar ei gradd sylfaen newydd mewn Ymarfer Llyfrgell a Gwybodaeth.
Bydd y cwrs, sydd wedi derbyn cefnogaeth y Sefydliad Siartredig Gweithwyr Proffesiynol Llyfrgell a Gwybodaeth (CILIP), sef y corff proffesiynol i lyfrgellwyr, yn darparu myfyrwyr gyda sgiliau technegol hanfodol ar gyfer llyfrgellwyr heddiw megis rheoli cronfeydd data, dulliau ymchwil a dulliau chwilio ar-lein datblygedig.
Ymgorfforir elfennau traddodiadol llyfrgellyddiaeth yn y cwrs dwy flynedd, rhan-amser yn ogystal, gan gynnwys rheolaeth gwybodaeth a sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid.
Bydd myfyrwyr yn ymweld â’r brifysgol am bedair sesiwn breswyl wythnos-o-hyd y flwyddyn ym Mhrifysgol Glyndŵr, a gweddill y rhaglen yn cael ei dysgu ar-lein trwy flogiau, ystafelloedd dysgu rhyngweithiol a rhwydweithio cymdeithasol.
Yn ôl Paul Jeorrett, Rheolwr Gwasanaethau Defnyddwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr, mae’r cwrs wedi cael ei ddatblygu i lenwi bwlch sgiliau amlwg o fewn llyfrgelloedd yn y DU – i gynhyrchu gweithwyr proffesiynol llyfrgell a gwybodaeth gyda sgiliau TCG, ymwneud â chwsmeriaid a sgiliau arwain a rheoli cadarn.
Cafodd ei ddatblygu trwy grant ariannol o £10,000 gan CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru, corff a gefnogir gan Lywodraeth y Cynulliad, gan dderbyn cefnogaeth hefyd gan Gymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru a Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru.
“Mae’r cwrs yn seiliedig-ar-waith ac wedi seilio’i mewn ymarfer, gyda’r gred gadarn eich bod yn dysgu’n well trwy wneud. Os ydych eisiau gweithio fel llyfrgellydd ar hyn o bryd, mae’n rhaid i chi astudio am radd neu gymhwyster lefel is – does ’na ddim byd yn y canol, a dyna ble daw’r radd sylfaen yma i lenwi’r bwlch,” meddai Mr Jeorrett.
“Rydw i wedi gweithio mewn llyfrgelloedd ers dros 30 mlynedd ac ni fydd llyfrau byth yn diflannu – dim ond fod gymaint o wybodaeth i’w reoli yn yr 21ain ganrif, ac mewn gymaint o ddiwygiau gwahanol. Mae’r maint o wybodaeth y gallwn wneud defnydd ohono yn awr yn anferth. Mae rôl y llyfrgellydd yn newid trwy’r amser, ac mae’r cwrs yma ynghylch sicrhau fod gennym lyfrgellwyr sy’n gallu addasu ar gyfer y dyfodol, llyfrgellwyr sy’n gallu delio yn eithriadol o hyderus a medrus gydag unrhyw gais am wybodaeth.
“Nid yw gweithwyr llyfrgell a chyfrifiaduron yn cydfynd bob amser felly mae’r radd yn unigryw yn hynny o beth hefyd. Rydym yn cydnabod fod sgiliau gweithwyr proffesiynol TG yn gallu bod yn andros o fuddiol i lyfrgellwyr.”
Gall myfyrwyr sy’n cofrestru ar y cwrs FdSC Ymarfer Llyfrgell a Gwybodaeth fanteisio o fwrsari a gynigir gan CyMAL. Gall unrhyw un wedi’i leoli yng Nghymru sy’n ymuno â’r cwrs ym mlwyddyn academaidd 2009-10 wneudi cais i CyMAL dalu am eu ffioedd yn y flwyddyn gyntaf.*
Am fwy o wybodaeth am y radd sylfaen mewn Ymarfer Llyfrgell a Gwybodaeth, cysylltwch â Paul Jeorrett trwy ebostio p.jeorrett@glyndwr.ac.uk, neu ffoniwch Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr y Brifysgol ar 01978 293439.
*Ffioedd i’w talu gan gyflogwyr a’u hawlio yn ôl gan CyMAL.
