Glasfyfyrwraig yn ennill gliniadur i’w helpu gyda’i gwaith coleg
2 Medi 2009
Cafodd glasfyfyrwraig hwb amserol ar ddechrau ei chyfnod yn y brifysgol ar ôl iddi ennill gliniadur i’w helpu gyda’i gwaith coleg.
Cafodd myfyrwyr a fynegodd ddiddordeb mewn astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr o fis Medi 2009 gyfle i ennill gliniadur pan roddwyd eu henwau mewn lotri wobrau i ennill gliniadur, ac enw Natalee Garbutt oedd y cyntaf i gael ei ddewis ar hap, allan o gannoedd o geisiadau a dderbyniwyd mewn ffeiriau addysg uwch ledled y DU.
Bydd Natalee, sy’n dod o Wrecsam, yn astudio ar gyfer BSc (Anrh) mewn Gwyddor Fforensig a Chyfiawnder Troseddol. Bydd yn astudio yr un pryd â’i mam, Melanie Garbutt, sydd wedi cofrestru ar gwrs gradd nyrsio yn y Brifysgol.
Meddai Natalee: “Rydw i’n wastad wedi bod â diddordeb mawr mewn gwyddor fforensig. Ar ôl gadael ysgol roeddwn eisiau ymuno â’r heddlu, ond roedd gen i fwy o ddiddordeb mewn gwyddor fforensig. Rydw i’n gobeithio gweithio fel swyddog lleoliad trosedd ar ôl i mi raddio.
“Doeddwn i’n methu credu pan gefais yr alwad i ddweud ’mod i wedi ennill – tydwi erioed wedi ennill unrhyw beth o’r blaen. Bydd y gliniadur o fudd mawr i mi gyda’r holl waith sydd o ’mlaen i, ond dwi’n meddwl y bydda’i a mam yn cwffio drosto!”
Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig dros 250 o gyrsiau israddedig, uwchraddedig a phroffesiynol, gyda llefydd yn dal ar gael ar gyfer mynediad ym mis Medi 2009. Am fwy o fanylion ffoniwch 01978 293439.
