Cyhoeddwyd y canfyddiadau gan yr Athro Stuart Irvine o Brifysgol Glyndŵr yn ystod ymchwil i ‘Fap Ffordd ar gyfer mabwysiadu a’r diwydiant PV yng Nghymru’, sy’n rhagweld y bydd yna 1,000 o swyddi newydd ychwanegol erbyn 2011 a 12,000 o swyddi newydd erbyn 2025. Ymgymerwyd â’r ymchwil yma ar ran OpTIC a Fforwm Opto-electronig Cymru (WOF).
Bydd y swyddi hyn mewn ystod o feysydd, yn amrywio o lawr y ffatri i waith ymchwil.
Meddai’r Athro Irvine: “Mae’r ffigwr yn un ceidwadol iawn mewn gwirionedd. Mae’n ddigon posib y gallai’r ffigwr yma fod gryn dipyn yn uwch na hynny.
“Mae gan Ogledd Cymru sylfaen ddiwydiannol gref cyn belled ag y mae ynni heuluol ac ymchwil i ynni heulol dan sylw, a chredwn fod hwn yn faes a fydd yn tyfu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf. Wrth i’r diwydiant dyfu, yn amlwg fe fydd yna effaith gynyddol o fwy o swyddi yn cael eu creu.”
Yn y cyfamser, mae Prifysgol Glyndŵr wedi cael ei dethol i gynnal cynhadledd gwyddoniaeth a thechnoleg o fri a fydd yn arwain at ffyniant mewn swyddi a buddsoddiad yn y diwydiant heulol trwy arloesedd blaengar. Dyma’r pumed tro i’r gynhadledd gael ei chynnal, ond y tro cyntaf yng Ngogledd Cymru.
Cynhelir y digwyddiad – y mwyaf o’i fath yn y DU – yng nghanolfan gynadledda a pherfformio newudd y Brifysgol o 1-3 Ebrill 2009. Bydd yn cael ei mynychu gan wyddonwyr rhyngwladol blaenllaw.
Ychwanegodd yr Athro Irvine: “Mae’r ffaith fod Wrecsam, a Phrifysgol Glyndŵr yn arbennig, wedi cael eu dewis i gynnal y digwyddiad yma sydd wedi hen ennill ei blwyf, yn cydnabod y cyfraniad y mae prifysgolion Cymreig wedi ei wneud i ymchwil ar gyfer ynni heulol dros y blynyddoedd. Mae’n anrhydedd fawr i Brifysgol Glyndŵr gael ei chydnabod yn y ffordd yma ac yn gyfle i ni arddangos ymddangosiad ei hymchwil newydd. Mae’n arbennig o briodol fod y gynhadledd yn cael ei chynnal yn yr ardal ble mae’r ffatri ynnu heulol fwyaf yn y DU wedi’i lleoli.”
Mae ffatri modiwl PV Sharp sydd wedi’i lleoli yn Wrecsam yn gwasanaethu Ewrop i gyd, gyda 2,000 o fodiwlau yn cael eu llwytho ar longau bob dydd. Mae’r modiwlau hyn, yn y bôn, yn unedau panel heuluol y gellir eu gosod ar adeiladau er mwyn mwyhau cynhyrchiad ynni. Hyd yma mae tua £21 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn gallu cynhyrchu yn Wrecsam.
Trefnir y gynhadledd gan adran y DU o’r Gymdeithas Ynni Heulol Ryngwladol mewn partneriaeth â PV-Net yr EPSRC, sydd yn rhwydwaith o ymchwilwyr a thechnolegwyr yn y DU sy’n gweithio ar ddatblygiadau newydd mewn ynni heulol. Derbyniwyd nawdd gan y Carbon Trust [yr Ymddiriedolaeth Carbon], PV Crystalox Solar a’r Sefydliad Ffiseg.
Gwahoddwyd athrawon coleg o Awstralia a’r Swistir, yn ogystal â’r DU, i siarad.