Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Esgob Wrecsam i dderbyn cymrodoriaeth anrhydeddus

3 Gorffennaf 2009

Bydd Esgob Wrecsam yn derbyn cymrodoriaeth anrhydeddus gan brifysgol y dref 50 mlynedd yn union ar ôl iddo ddod yn offeiriad gyntaf.

Mae’r wobr gan Brifysgol Glyndŵr yn cael ei rhoi mewn cydnabyddiaeth o ymroddiad yr Esgob Edwin Regan i’r gymuned yn Wrecsam.

Bydd y gymrodoriaeth yn cael ei chyflwyno iddo ar ôl yr Offeren mewn seremoni arbennig yn Neuadd William Aston y brifysgol brynhawn Sul.

Talodd yr Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr, deyrnged i waith yr Esgob Regan ers iddo gael ei benodi yn Esgob Wrecsam ym mis Tachwedd 1994.

“Mae Edwin wedi dod â chynhesrwydd, llawenydd a chusur i bawb y mae wedi eu cyfarfod yn ystod ei gyfnod fel Esgob yma yn Wrecsam,” meddai’r Athro Scott.

“Mae ei ymrwymiad a’i ymroddiad i wneud y dref yn lle gwell i weithio, byw ac astudio ynddi, ac i ymweld â hi, yn amlwg i bawb.

“Mae gennym ysbryd cymunedol cryf trwy Wrecsam yn wastadol ac mae hynny i raddau helaeth yn sgil gwaith yr Esgob Regan. Rwyf yn siŵr y bydd yn parhau i wneud pethau mawr dros y dref am flynyddoedd lawer i ddod.”

Ganed yr Esgob Regan ym Mhort Talbot ym mis Rhagfyr 1935 a chafodd ei ordeinio’n offeiriad ar y 5ed o Orffennaf 1959 pan gafodd ei benodi yn Offeiriad Mynwy. Daeth yn Esgob Ordeiniedig ym mis Rhagfyr 1994 fis ar ôl cael ei benodi yn Esgob Wrecsam.

Cysylltwch a ni