Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cymrodoriaeth anrhydeddus i Paul Murphy AS

28 Chwefror 2009

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Paul Murphy AS, wedi derbyn cymrodoriaeth anrhydeddus gan Brifysgol Glyndŵr mewn seremoni yn Wrecsam i nodi sefydliad y Brifysgol. 

Rhoddwyd y wobr mewn cydnabyddiaeth o gyfraniad rhagorol Mr Murphy i ddatblygiad llywodraeth yng Nghymru yn sgil cyflwyniad datganoli yn 1999.

Er i Brifysgol Glyndŵr gael ei chreu yn swyddogol ym mis Gorffennaf y llynedd pan dderbyniodd deitl prifysgol gan y Cyfrin Gyngor, cynhaliwyd y dathliad ffurfiol mewn seremoni ddydd Sadwrn 28 Chwefror, ble gorseddwyd Cangellor ac Is-Ganghellor y Brifysgol a chyflwynwyd arfbais y Brifysgol.

Meddai Mr Murphy: “Mae’n bleser o’r mwyaf gennyf dderbyn y wobr hon. Rwyf wedi dilyn hynt y Brifysgol gyda diddordeb mawr, felly mae’n fraint cael fy anrhydeddu gan y Brifysgol ar ddechrau pennod newydd gyffrous yn ei hanes.

“Y mae hefyd yn ddiwrnod arbennig i Wrecsam a Gogledd Cymru gyfan ac mae’n dda gweld y Brifysgol a’r gymuned yn cydnabod y cysylltiadau agos sy’n eu clymu ynghyd.”

Yn ystod cyfnodau Mr Murphy yn ei swydd weinidogol y mae wedi bod wrth graidd nifer o newidiadau cyfanosoddiadol o bwys. Crëwyd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod ei gyfnod cyntaf fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a bu hefyd wrth graidd trafodaethau a arweiniodd at Gytundeb Gwener y Groglith yng Ngogledd Iwerddon a arweiniodd at adferiad gweinyddiaeth ddatganoledig ym Mhelffast. 

Roedd yr Athro Michael Scott, Is-Ganghellor newydd ei orseddu Prifysgol Glyndŵr, yn llawn canmoliaeth o Mr Murphy.

Meddai: “Mae Paul Murphy wedi bod yn ffigwr allweddol yn y llywodraeth am y rhan fwyaf o’r degawd diwethaf. Trwy gydol yr amser hwnnw mae wedi bod yn gefnogwr mawr o Brifysgol Glyndŵr. Gan hynny, mae’n addas ein bod wedi gallu cydnabod ei waith trwy ei wahodd i fod yn gymrawd o’r Brifysgol.”

Gan gydnabod rôl arbennig Prifysgol Glyndŵr yn y gymuned leol, mae’r Brifysgol hefyd wedi cyflwyno cymrodoriaethau anrhyddedus yn siroedd Wrecsam, Dinbych a Fflint. 

Derbyniodd y dinasyddion cyntaf, sef Maer Wrecsam, y Cynghorydd David Griffiths, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Raymond Bartley, a Chadeirydd Cyngor Sir Fflint, y Cynghorydd Quentin Dodd, gymrodoriaethau yn y seremoni sefydlu.

Ychwanegodd yr Athro Scott: “Mae gan Brifysgol Glyndŵr gysylltiadau cryf gyda’r tair sir, a chyfrannodd eu cefnogaeth at greu’r Brifysgol Glyndŵr sydd gennym heddiw. Rydym yn cydweithio’n agos gyda’r tair sir er budd economi leol a ranbarthol pobl Gogledd Cymru, ac mae’n bleser gennyf gydnabod y berthynas agos honno mewn dathliad mor bwysig i’r Brifysgol.”

Cysylltwch a ni