Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cyfle i Deithio Trwy Amser ar Drên Wrecsam a Swydd Amwythig

7 Rhagfyr 2009

Mae Prifysgol Glyndŵr a rheilffordd Wrecsam a Swydd Amwythig yn cynnig cyfle unigryw i gyfuno ychydig o siopa Nadolig yn y brifddinas gyda thaith yn ôl mewn amser.

Ar y 15fed o Ragfyr, bydd teithwyr ar y gwasanaeth uniongyrchol Wrecsam - Llundain yn gallu mwynhau darlith am Hanes Llundain gan y darlithydd Rod Playford o Brifysgol Glyndŵr.

Bydd y teithwyr yn gallu mynd ar y trên 07.23 o Wrecsam i orsaf Marylebone yn Llundain gyda’r darlithydd o Brifysgol Glyndŵr, Rod Playford, am sesiwn ddwyawr o hanes Llundain, yn archwilio pynciau fel Llundain Samuel Pepys, Christopher Wren ac ailadeiladu’r ddinas ar ôl y tân mawr a’r modd y cafodd y Brifddinas ei llunio gan y Tuduriaid Cymreig.  

Mae’r llefydd yn gyfyngedig, a gall teithwyr gofrestru am bris gostyngedig o £40 yn unig. Bydd y sgwrs yn cael ei rhoi trwy glustffonau a ddarperir ar y trên.

Bydd y teithwyr yn cyrraedd Llundain gyda digonedd o amser i gael golwg o gwmpas rhai o safleoedd hanesyddol enwog Llundain neu fwynhau ychydig o siopa Nadolig.

Ac, os na fydd yr holl hanes yna yn ddigon, fe allent ymweld â rhai o brif amgueddfeydd Llundain fel y V&A neu’r Amgueddfa Hanes Naturiol. Bydd Rod Playford hefyd ar gael ar y daith yn ôl o Lundain am 18.33 i sgwrsio am ddarlith y bore ac i ateb unrhyw gwestiynau.

Trefnwyd y digwyddiad gan Suzanne Riley, Rheolwraig Masnachol yn Arloesiadau Glyndŵr. Meddai, “Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth gwahanol a fyddai’n dangos i bobl nad oes yn rhaid i addysg ddigwydd mewn ystafell ddosbarth neu ddarlithfa yn unig.

"Yn y dyfodol, fe hoffem gynnig pynciau eraill fel y gall pobl wneud y mwyaf o’u hamser wrth deithio a dysgu pethau diddorol.”

Meddai Thomas Ableman, Cyfarwyddwr Marchnata Wrecsam a Swydd Amwythig: “Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i wneud teithio i Lundain yn fwy pleserus i deithwyr ac mae’n bleser gennym weithio gyda Phrifysgol Glyndŵr a Phartneriaeth Reilffordd Caer/Swydd Amwythig ar brosiect mor arloesol.

"Mae Llundain yn ddinas ddiddorol dros ben gyda chymaint o hanes iddi, a pha ffordd well o ddysgu amdano nag wrth i chi deithio. Rydym yn disgwyl i hyn fod yn boblogaidd felly cynghorir i chi archebu eich lle cyn gynted â phosib er mwyn osgoi cael eich siomi.”

Bydd ail drên hanes yn rhedeg ym mis Ionawr, sy’n golygu na fydd y rhai a fethodd fynd ym mis Rhagfyr yn colli allan.

Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle ar naill daith neu’r llall, cysylltwch â Suzanne Riley ar Tel 01978 293007 neu ewch i’r wefan: glyndwrinnovations.co.uk     
 
Diwedd

Cysylltwch a ni