Catrin Finch a band o Dde America yn perfformio ym Mhrifysgol Glyndŵr i nodi agoriad canolfan berfformio newydd
23 Gorffennaf 2009
Bydd y delynores enwog Catrin Finch yn perfformio cyngerdd arbennig i nodi agoriad canolfan cynadledda a pherfformio newydd gwerth £3 miliwn Prifysgol Glyndŵr a fydd yn cael ei henwi ar ei hôl – Canolfan Catrin Finch.
Cynhelir y perfformiad, gyda’r band o Dde American Cimarron, nos Iau 23 Gorffennaf am 7.30pm.
Disgwylir y bydd y ganolfan gynadledda a theatr 200-sedd, sydd wedi’i hofferu gyda chyfleusterau clyweledol uwch-dechnoleg tra-modern, yn brif ganolbwynt ar gyfer celfyddydau perfformiadol yng ngogledd ddwyrain Cymru.
Yn ôl yr Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr, byddai cynyrchiadau theatr bychain, dramâu, digwyddiadau cerddorol llai a gweithdai celf creadigol / cyrsiau hyfforddi yn cael eu cynnal yno, yn ogystal â chynadleddau, cyfarfodydd, arddangosfeydd a derbynfeydd.
“Heb os nac oni bai, Canolfan Catrin Finch yw un o’r lleoliadau gorau ar gyfer theatr a cherddoriaeth fyw a welwyd yn Wrecsam erioed,” meddai. “Nid yn unig y bydd o fudd enfawr i’n myfyrwyr celfyddydau perfformiadol, y mae hefyd yn ganolfan y gall y gymuned gyfan wneud defnydd ohoni – ac nid dim ond os ydych eisiau gweld theatr fyw. Bydd busnesau yn gallu gwneud defnydd o’r cyfleusterau cynadledda ardderchog hefyd.
“Rydym yn brifysgol ers ychydig dros flwyddyn bellach ac rydym eisoes wedi gwneud llawer o gynnydd yn ystod y cyfnod byr hwnnw. Mae gennym gynlluniau i ymestyn a buddsoddi mwy dros y blynyddoedd nesaf, a dim ond dechrau hynny yw Canolfan Catrin Finch.”
Enwir y ganolfan ar ôl Ms Finch yn sgil gwobr Cymrodoriaeth Robarts blwyddyn o hyd a ddyfarnwyd iddi gan y Brifysgol.
Wedi’i disgrifio’n Saesneg fel “The Queen of Harps”, mae Catrin wedi perfformio’n helaeth ledled y byd. Mae hi wedi ymddangos gyda llawer o gerddorfeydd gorau’r byd gan gynnwys y New York Philharmonic, y Philharmonia, y Royal Philharmonic Orchestra, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, y London Mozart Players, yr English Chamber Orchestra, y North Carolina Symphony a’r Manchester Camerata.
Ar ôl chwarae’r delyn am y tro cyntaf yn bump oed, mae Ms Finch, a aned yng Ngheredigion, yn un o brif delynorion y byd erbyn hyn. Derbyniodd ei gwobr ryngwladol gyntaf yn 1999 – pan enillodd Gystadleuaeth Delyn Ryngwladol Lily Laskine yn Ffrainc – ac ers hynny mae hi wedi derbyn enwebiad am wobr Classical Brit Award ac wedi bod yn Delynores Frenhinol i Dywysog Cymru.
“Mae Catrin yn un o delynorion mwyaf dawnus ei chenhedlaeth ac mae’n bleser gennym enwi’r ganolfan ar ei hôl hi,” ychwanegodd yr Athro Scott. “Mae hi wedi rhoi pleser i filiynau o bobl trwy’r byd gyda’i cherddoriaeth, ac fel prifysgol rydym yn falch o fod â chysylltiad mor gryf gyda Catrin. Mae Canolfan Catrin Finch yn deyrnged haeddiannol iddi.”
Cyfarfu Catrin Finch a Cimarron – band Llanera saith darn wedi’i arwain gan y telynor a’r cyfansoddwr Carlos Rojas, a ddylanadwyd gan bobl y Mestizo sy’n byw ar safanâu afon fawr yr Orinoco yng Ngholombia – am y tro cyntaf yng Nghaernarfon ym mis Tachwedd 2007. Yn ystod pedwar diwrnod dyrys, fe wnaethont gyfnewid a datblygu alawon a chaneuon o ddiwylliant brodorol y naill a’r llall, wedi’u harwain gan draddodiad telynegol ei gilydd. Chwistrellwyd rhythmau Colombaidd traddodiadol gan ddawn draddodiadol Catrin, tra cafodd alawon Cymreig traddodiadol eu trwytho gan hunaniaeth Ladinaidd soniarus.
Mae tocynnau ar gyfer perfformiad Catrin Finch a Cimarron ar y 23ain o Orffennaf yn costio £15.00 neu gonsesiynau am £12.50 sydd ar gael ar-lein neu trwy ffonio 01978 292015. Gellir eu prynu hefyd yng Nghanolfan Groeso Wrecsam yn Stryt Lambpit. Mae yna far trwyddedig yn y ganolfan a pharcio di-dâl. Ffoniwch ein Cydlwynwyr Cynadledda ar 01978 293565 am fwy o wybodaeth am y lleoliad.
