Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Athrawon coleg wedi ymddeol yn derbyn cydnabyddiaeth anrhydeddus

17 Gorffennaf 2009
Athrawon coleg wedi ymddeol yn derbyn cydnabyddiaeth anrhydeddus

Heddiw (Dydd Gwener yr 17eg o Orffennaf), anrhydeddodd Prifysgol Glyndŵr dri athro coleg wedi ymddeol mewn seremoni arbennig yn y Ganolfan Gynadledda Catrin Finch newydd i nodi eu cyfraniadau sylweddol tuag at ymchwil ac ysgolheictod y Brifysgol.

Derbyniodd yr athrawon coleg wedi ymddeol, yr Athro Davison, yr Athro Linford a’r Athro Phillips, deitl anrhydeddus Athro Emeritws, sef gwobr arbennig y gellir ei rhoi gan brifysgolion i amlygu cyraeddiadau athrawon coleg allweddol.

Mae’r Athro Peter Davison yn arbenigwr ar George Orwell. Mae ei waith yn cynnwys golygu ugain cyfrol o The Complete Works of George Orwell, ysgrifennu a golygu pedwar llyfr ar ddeg, golygu adlun o Lawysgrif Nineteen Eighty-Four ac ysgrifennu George Orwell: A Literary Life. Mae’r Athro Davison wedi bod yn ymwelydd rheolaidd â Phrifysgol Glyndŵr, gan roi nifer o ddarlithoedd cyhoeddus ar George Orwell a gwleidyddiaeth iaith.

Mae cefndir yr Athro Roger Linford mewn thermodynameg, ffrithiant, traul ac adlyniad mewn peirianwaith adweithydd niwclear. Bu’n Ddeon Gwyddorau Cymwysedig ac yn Ddeon Myfyrwyr Ymchwil yng Ngholeg Polytechnig Dinas Caerlŷr fel yr oedd bryd hynny (Prifysgol De Montfort yn nes ymlaen). Mae wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn gweithio yn rhan-amser ym Mhrifysgol Glyndŵr, fel Prifathro Cynorthwyol i ddechrau ac yna fel Cynghorydd Arbennig i’r Is-Ganghellor.

Roedd yr Athro Nick Phillips yn ffisegwr nodedig ac yn arloeswr delweddu holograffig ym Mhrydain. Yn 1993 cafodd ei benodi yn Athro Gwyddor Delweddu ym Mhrifysgol De Montfort. Symudodd gyda gweddill ei adran i Brifysgol Glyndŵr, wedi ei leoli ar safle’r Optic Technium a elwir erbyn hyn yn Optic Glyndŵr, ac ar yr 22ail o Hydref 2008 cafodd ei benodi yn Athro Emeritws o Brifysgol Glyndŵr. Ar y 23ain o Fai eleni, trist adrodd i’r Athro Nick Phillips farw ar ôl hir gystudd. Bydd y wobr yn cael ei rhoi i’w wraig, Kathryn.

Hefyd, rhoddodd y Brifysgol gymrodoriaethau arnhydeddus i naw cyn aelod o Fwrdd ei Llywodraethwyr a helpodd y brifysgol i gyflawni ei nod o statws prifysgol.

Cysylltwch a ni