Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Ymchwil o ddosbarth rhyngwladol ym Mhrifysgol Glyndŵr

18 Rhagfyr 2008
Ymchwil o ddosbarth rhyngwladol ym Mhrifysgol Glyndŵr

Dengys ffigyrau diweddar fod ymchwil a ymgymerir ym Mhrifysgol Glyndŵr o safon ryngwladol ar draws pob maes pwnc.

Cydnabu Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE) 2008 fod ymchwil Cyfrifiadureg a Hysbyseg, a Metaleg a Defnyddiau yn arbennig yn rhyngwladol flaenllaw.   

Ystyriwyd fod bron i ddau draean o’r holl ymchwil yn y Brifysgol yn rhyngwladol arwyddocaol.

Cyflwynodd y Brifysgol fwy o feysydd pwnc nag erioed o’r blaen ar gyfer asesu ymchwil a chafwyd gwelliant arwyddocaol mewn ansawdd ymchwil meysydd pwnc a aseswyd yn flaenorol.

Cydnabu fod 57.5 y cant o ymchwil o ansawdd o gydnabyddir yn rhyngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a manwl gywirdeb ac ystyriwyd fod 90 y cant o’r holl ymchwil o bwys cenedlaethol o leiaf.

Mae’r RAE wedi arfer asesu ansawdd ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch ledled y DU ac fel canolfan ar gyfer clustnodi dros £1.5 biliwn o gyllid bob blwyddyn o 2009-10.

Soniodd yr Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr, am ei falchder yn y canlyniadau hyn – y gorau i’r Brifysgol eu cyflawni erioed.

Meddai: “Rydw i mor falch fod yr holl waith caled sydd wedi mynd i’n hymchwil yn ystod y blynyddoedd diwetha wedi bod yn werth chweil. Mae cael cydnabyddiaeth ryngwladol am bron i ddau draean o’n hymchwil yn gamp aruthrol i’r Brifysgol ac i Ogledd Ddwyrain Cymru.”

Mae ymchwil yn ategu pob rhaglen academaidd ym Mhrifysgol Glyndŵr, gan sicrhau fod myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i’r syniadau diweddaraf yn rheng flaen eu meysydd astudio.

Ar hyn o bryd mae gan y Brifysgol wyth canolfan ymchwil ac wedi buddsoddi’n sylweddol yn ei galluoedd ymchwil academaidd ers i’r asesiad ymchwil diwethaf gael ei wneud yn 2001.

Meddai’r Athro Graeme Wilkinson, Dirprwy Is-Ganghellor, Materion Academaidd ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Mae ein hymchwil yn amlwg wedi symud ymlaen llawer ers 2001. Rydym wedi dod ag aelodau staff newydd i mewn sy’n amlwg ym maes ymchwil yn ystod y blynyddoedd diwetha ac rydym wedi cael cefnogaeth gref gan fusnesau lleol am ein gwaith. Mae’r canlyniadau yn arwydd o ba mor ddifrifol yr ydym yn gwerthfawrogi a chefnogi ymchwil o fewn y sefydliad.

“Gall pobl Wrecsam a Gogledd Ddwyrain Cymru ymfalchïo yn y Brifysgol a’r gwaith sy’n cael ei wneud yma. Rydym yn brifysgol newydd ac mae’r ymchwil yr ydym yn ei gwneud yn amlwg yn werthfawr ac arwyddocaol iawn ar y llwyfan rhyngwladol.” 

Ar y cyfan, gwelodd Cymru berfformiadau cryf mewn amrywiaeth o bynciau, o gelf a dylunio i ffiseg, gyda chyflawniad o ddosbarth rhyngwladol mewn nifer o feysydd gan gynnwys peirianneg sifil, cyfrifiadureg a hysbyseg, seiciatreg a niwrowyddoniaeth, seicoleg ac astudiaethau Celtaidd.

Meddai Roger Thomas, cadeirydd CCAUC: “Rydym yn falch iawn o weld perfformiad ymchwil cryf gan brifysgolion Cymreig mewn gymaint o feysydd. Yr her yn awr yw defnyddio’r cryfderau hyn i hybu economi gwybodaeth Cymru a chreu cyfooeth a swyddi, sy’n arbennig o bwysig yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.”

Cysylltwch a ni