Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Y Brifysgol i chwifio baner dros arwr Cymreig

16 Medi 2008
Y Brifysgol i chwifio baner dros arwr Cymreig

Chwifiodd Prifysgol Glyndŵr ei baner yn falch ddydd Mawrth i nodi 608fed pen-blwydd cyhoeddi Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru – er anrhydedd yr arwr Cymreig a ysbrydolodd ei henw.

Cododd y Brifysgol faner Glyndŵr ar ei champws yn Wrecsam i ddathlu dylanwad hirhoedlog mab enwocaf Cymru a’i weledigaeth o Gymru Ewropeaidd fodern gyda’i phrifysgolion ei hun.

Mae’r faner ei hun yn seiliedig ar arfbais Glyndŵr o bedwar llew, symbol disgynyddion Tywysogion Gwynedd. Cafodd ei mabwysiadu gan Glyndŵr yn dilyn cyhoeddi ei deitl gan uchelwyr Cymreig yn 1400.

Dydd Mawrth oedd y tro cyntaf i’r Brifysgol – yr ieuenegaf yn y DU – nodi Diwrnod Glyndŵr.

Daeth Prifysgol Glyndŵr  i fodolaeth ym mis Gorffennaf eleni, pan roddodd y Frenhines, ar argymhelliad y Cyfrin Gyngor, rymoedd gwobrwyo graddau a addysgir a theitl prifysgol llawn i Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI).

Meddai’r Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr: “Mae codi’r faner ddydd Mawrth yn achlysur balch i bawb sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Glyndŵr.

“Roedd Owain Glyndŵr yn ffigwr ysbrydoledig ledled Cymru, ac yn dal i fod. Roedd yn ysgolhaig o fri ei hun ac yn ddyn lleol gyda chysylltiadau cryf ag ardal Wrecsam – mae ei gysylltiadau â’r Brifysgol yn ddiamheuaeth.

“Mae pen-blwydd y diwrnod y cafodd ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru yn un ffordd o gofio Owain Glyndŵr a’r effaith a gafodd ar bobl Cymru.”

Mae bywyd Owain Glyndŵr yn cael ei ddathlu ledled Cymru ar 16 Medi bob blwyddyn. Ef hefyd oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer cân y Manic Street Preachers yn 2007, ‘1404’, ac mewn Pôl Milflwydd o 100 o bobl ryngwladol ddylanwadol, daeth Owain Glyndŵr yn seithfed, yn uwch na Syr Isaac Newton ac Abraham Lincoln.

Cysylltwch a ni