|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2008 > Wythnos Fusnes Wrecsam
|
||
|
|
Wythnos Fusnes Wrecsam20 Hydref 2008
Bydd arbenigwyr o Brifysgol Glyndŵr wrth law i gynnig cyngor am ddim i fusnesau Wrecsam yr wythnos yma. Bydd y Brifysgol yn cynnal sesiwn Cyfarfod yr Arbenigwyr rhwng 1pm a 5pm ddydd Iau 23 Hydref, fel rhan o Wythnos Fusnes Wrecsam. Gall unrhyw un gymryd mantais o’r sesiynau ymgynghori hanner-awr sydd ar gael ar bynciau yn amrywio o gyfrifiadura a dylunio i weithdrefnau busnes a pheirianneg. Mae’r sesiynau yn rhan o gyfres o sgyrsiau a gweithdai sy’n cael eu rhedeg gan y Brifysgol yr wythnos yma fel rhan o’r digwyddiad busnes blynyddol. Y mae hefyd yn cynnal Cinio Busnes Wrecsam nos Iau, 23 Hydref, gyda Richard Reeves, Siaradwr Busnes Ewropeaidd y Flwyddyn am eleni yn siarad am brif faterion busnes heddiw. Bydd dirprwyon hefyd yn clywed mwy am Brifysgol Glyndŵr gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Michael Scott, yn ogystal â mwynhau pryd tri chwrs. Mae tocynnau ar gyfer Cinio Busnes Wrecsam Prifysgol Glyndŵr yn costio £25 neu £170 am fwrdd o 8 o bobl, a gellir eu harchebu gan Laura Willington ar 01978 293245 neu l.willington@glyndwr.ac.uk. Am fwy o wybodaeth am Cyfarfod yr Arbenigwyr, nei i archebu sesiwn, cysylltwch â Carolyn Turner ar 01978 293495 neu ebostiwch c.turner@glyndwr.ac.uk Darllenwch mwy: Wythnos Fusnes Wrecsam |
|