|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2008 > Prifysgol fwyaf newydd Cymru i gymryd enw arwr Cymreig
|
||
|
|
Prifysgol fwyaf newydd Cymru i gymryd enw arwr Cymreig15 Gorffenaf 2008
Datgelwyd prifysgol fwyaf newydd Cymru heddiw – a bydd yn cael ei henwi ar ôl yr arwr Cymreig Owain Glyndŵr. Rhoddwyd statws prifysgol i NEWI trwy gydsyniad brenhinol y Frenhines, ar gyngor y Cyfrin Gyngor. Gwnaethpwyd y datganiad heddiw mewn cynhadledd i’r wasg yng nghampws y brifysgol yn Wrecsam a fynychwyd gan y Prif Weinidog Rhodri Morgan. Prifysgol Glyndŵr yw’r unig brifysgol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a’r ddegfed brifysgol yng Nghymru. Bydd yr Athrofa, sydd â bron i 8,000 o fyfyrwyr, yn cael ei galw yn Brifysgol Glyndŵr ar ôl mab enwocaf Cymru – yr arweinydd, ysgolhaig a’r saer cenedl gweledigaethol Owain Glyndŵr. Wedi’i eni yn Wrecsam oddeutu 1355, brwydrodd Glyndŵr yn y fyddin Seisnig gan gefnogi Brenin Lloegr, Richard II. Pan gamfeddiannwyd Richard gan Henry Bolingbroke (y darpar Harri IV), arweiniodd Glyndŵr ei luoedd yn erbyn y camfeddiannwr gan amddiffyn ei famwlad. Heddiw, dywedodd Is-Ganghellor y Brifysgol Glyndŵr, yr Athro Michael Scott, y byddai cyflawni statws prifysgol yn darparu manteision sylweddol nid yn unig i’r myfyrwyr ond i economi Gogledd Cymru gyfan. Aeth ymlaen i ddweud fod Owain Glyndŵr yn wladweinydd gweledigaethol ac yn ffigwr eiconig sydd, gellir dadlau, yn ffigwr pwysicaf a mwyaf adnabyddus hanes Cymru. Meddai’r Athro Scott: “Gallwn ymfalchïo’n fawr yn ein cysylltiad ag Owain Glyndŵr, i’r rhan fwyaf o Gymry, credaf mai ef yw’r ffigwr hanesyddol a diwylliannol pwysicaf. “Dadleuodd dros sefydlu prifysgolion yn Ne a Gogledd Cymru. Roedd ganrifoedd o flaen ei amser yn ei ffordd o feddwl. “Y mae’n addas, hefyd, fod ffigwr oedd yn ymgorfforiad o ysbryd menter yn gysylltiedig â sefydliad addysg ble mae menter wrth graidd ein gweithgaredd.” Anfonodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ei llongyfarchiadau i’r Brifysgol newydd. Meddai, “Mae codi lefelau cyrhaeddiad a sgiliau addysgol yn hanfodol er mwyn i Ogledd Ddwyrain Cymru barhau i wella ei hochr gystadleuol fel cyrchfan buddsoddiad. Bydd agwedd wedi’i arwain gan y farchnad Prifysgol Glyndŵr at ddysg, gyda’i hymroddiad i anghenion galwedigaethol, yn chwarae rôl allweddol yn yr ymgyrch yma am fuddsoddiad mewnol.” Canghellor y brifysgol newydd fydd yr Arglwydd Barry Jones, cyn AS Alyn a Glannau Dyfrdwy, sef Llywydd yr Athrofa ar hyn o bryd. Ychwanegodd: “Mae’r newyddion heddiw yn gydnabyddiaeth o 120 mlynedd o gyflenwi safonau uchel o addysg uwch yn Wrecsam, ac yr wyf yn falch o fod yn Ganghellor Prifysgol Glyndŵr. Mae datblygiadau fel y buddsoddiad £40miliwn yn dangos fod y llwyfan wedi’i gosod ar gyfer y dyfodol.“ Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Glyndŵr, Mr Brian Howes, ei fod yn hapus iawn gyda’r newyddion, gan gyhoeddi fod gan y brifysgol newydd genhadaeth i helpu i hybu economi’r ardal a’r wlad. Gwnaeth yntau longyfarch y staff a’r myfyrwyr ar y gamp o ddod yn Brifysgol Glyndŵr, y brifysgol fwyaf newydd yng Nghymru. |
|