Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Prifysgol Glyndŵr yn rhoi gwersi mewn entrepreneuriaeth ar gyfer Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2008

18 Tachwedd 2008
Prifysgol Glyndŵr yn rhoi gwersi mewn entrepreneuriaeth

Mae Prifysgol Glyndŵr wedi ymuno â Phrifysgol Illinois a rhai o brifysgolion amlycaf y DU i hyrwyddo ei neges entrepreneuraidd.

Mae’r brifysgol yn Wrecsam wedi cymryd rhan mewn rhith gynhadledd i nodi’r Wythnos Fenter, gyda nawdd gan y Cynulliad Cenedlaethol.   

Mae’r Wythnos Fenter, a redodd o ddydd Llun 17 – Sul 23 Tachwedd, yn ddathliad o fenter gyda miloedd o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar hyd a lled y DU. Eleni, am y tro cyntaf, roedd yr Wythnos Fenter yn rhan o’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang.

Ar ddydd Gwener 21 Tachwedd, ymunodd Prifysgol Glyndŵr â phrifysgolion  Illinois (un o 25 prifysgol uchaf y byd), Nottingham (prifysgol entrepreneuraidd flaenllaw THES), Coventry a Chaerdydd mewn dolen fideo fyw. Ynghyd â Llywodraeth y Cynulliad, buont yn trafod y modd y gellid ymgorffori mesurau  entrepreneuraidd ymhellach i’r byd academaidd yn y dyfodol.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys staff a myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr ochr yn ochr ag aelodau o’r gymuned cefnogi busnes. Mae amcanion y digwyddiad yn driphlyg:

  • cyflwyno cydweithwyr i eraill sy’n gweithio yn y maes;
  • trafod arfer gorau er mwyn datblygu a thyfu;
  • helpu Prifysgol Glyndŵr i ychwanegu at ei henw da cadarn fel sefydliad gwirioneddol entrepreneuraidd a byd-eang.

Meddai Mary Bradley, Pennaeth y Ganolfan ar gyfer Dysgu Entrepreneuraidd ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Rydym yn hyderus iawn y gallwn ddysgu llawer iawn gan y prifysgolion hyn ac, yn yr un modd, fod gennym lawer i’w gynnig.    

“Ein huchelgais yn y pen draw yw datblygu ymwybyddiaeth myfyrwyr o fenter a meddylfryd entrepreneuraiadd, gyda golwg ar fwyhau’r graddau y gall myfyrwyr a graddedigion gymryd rheolaeth dros wireddu eu huchelgeisiau eu hunain.

“Rydym hefyd yn anelu i fod yn hyd yn oed mwy arloesol ac ymatebol i anghenion busnes, cymunedau lleol a budd-ddeiliaid eraill. Er mwyn cyflawni hyn mae angen i’n staff fod ar flaen y gad o ran meddylfryd newydd, ac mae digwyddiadau fel hyn yn dyngedfennol. Rwyf yn gwerthfawrogi cefnogaeth y Cynulliad Cenedlaethol wrth ein  helpu ni i gynnal y digwyddiadau hyn ac am gydnabod gwerth datblygu  entrepreneuriaeth mewn addysg.“

Mae’r gynhadledd fideo yn ddim ond un o’r gweithgareddau yr oedd Prifysgol Glyndŵr yn gysylltiedig â hwy er mwyn nodi’r Wythnos Fenter.

Ar ddydd Llun 17 Tachwedd, lansiodd y brifysgol ei gwasanaeth gweithgareddau allgyrsiol, Zôn, ac ar ddydd Mercher bydd yn cynnal archwiliad o’r defnydd o syniadau a chreadigrwydd mewn busnes. Ar ddydd Gwener, dilynwyd y rhith gynhadledd gan ginio aelodau Zôn yn y brifysgol a dyfarnwyd gwobrau i unigolion oedd wedi bod yn gysylltiedig â gweithgareddau’r Wythnos Fenter.

Cysylltwch a ni