Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Prifysgol Glyndŵr yn arwyddo cytundeb o fri gyda thelynores Gymreig

8 Awst 2008
Prifysgol Glyndŵr yn arwyddo cytundeb o fri gyda thelynores Gymreig

Mae Prifysgol Glyndŵr wedi llofnodi cydweithrediad newydd cyffrous gyda’r delynores ryngwladol o Gymru, Catrin Finch.

Bydd Ms Finch, sydd wedi derbyn cymrodoriaeth blwyddyn gan y brifysgol, yn ymweld â Wrecsam chwe gwaith rhwng hyn a Gorffennaf 2009 i arwain cyfres o gyngherddau a gweithdai cyhoeddus ar gyfer telynorion ifanc.

Bydd hi hefyd yn ymweld â sawl ysgol yn ardal Wrecsam i weithio gyda myfyrwyr ar brosiectau cerddorol a datblygu sgiliau egin gerddorion.

Yn siarad ar ôl llofnodi cytundeb Cymrodoriaeth Robarts gyda Ms Finch, meddai’r Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr: “Rydym wrth ein bodd fod Catrin wedi derbyn y gymrodoriaeth. Mae Catrin yn un o gerddorion clasurol mwyaf amlwg ei chenhedlaeth ac mae’r cytundeb yr ydym wedi’i arwyddo yn un cyffrous a fydd o fantais aruthrol i bobl ifanc ledled Wrecsam.

“Mae Prifysgol Glyndŵr yn ymroddedig i gael y gymuned i gymryd rhan yn ei gweithgareddau o ddydd i ddydd a bydd ymweliadau Catrin â’r Brifysgol ac ysgolion lleol fel ei gilydd yn parhau â’r ymroddiad yma.”

Ar ôl chwarae’r delyn am y tro cyntaf yn bump oed, mae Ms Finch, a gafodd ei magu yng Ngheredigion, wedi datblygu i fod yn un o brif delynorion y byd. Enillodd ei gwobr ryngwladol gyntaf yn 1999 – sef Cystadleuaeth Delyn Ryngwladol Lily Laskine yn Ffrainc – ac ers hynny mae hi wedi cael ei henwebu am Wobr Classical Brit ac wedi bod yn Delynores Frenhinol i Dywysog Cymru.

Diolchodd yr Athro Scott i’r Llywodraethwr Prifysgol Glyndŵr Aldham Robarts am roi  nawdd ariannol i’r gymrodoriaeth newydd.

Meddai’r Athro Scott: “Mae Aldie wedi bod yn gefnogwr gwych a thriw o’r Brifysgol ers iddo gael ei benodi i Fwrdd y Llywodraethwyr bum mlynedd yn ôl. Rydym yn dragwyddol ddiolchgar ei fod wedi rhoi cyfle mor wych i fod yn rhan o bartneriaeth newydd a fydd o fantais i bawb sydd â diddordeb yn Wrecsam a Phrifysgol Glyndŵr.”

Cysylltwch a ni